Accessibility links

1
Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Clirio llystyfiant

Cyfarwyddyd datblygu

Mae rhai fflora a ffawna yng Nghymru’n cael gwarchodaeth arbennig. Y rheswm dros hyn fel rheol yw:

  • eu statws cadwraeth bregus gan eu bod mewn perygl neu’n dirywio mewn niferoedd neu ystod, naill ai yn y DU neu yn y Gymuned Ewropeaidd
  • maent yn gallu dioddef o erlid neu greulondeb fel gyda moch daear sy’n cael eu hela neu gasglu wyau adar

Mae deddfwriaeth annibynnol ar ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref, ond gyda chysylltiad agos â hi, yn gwarchod y rhywogaethau hyn.

Y prif ddeddfau ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru a Lloegr yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r deddfau gwaddol Ewropeaidd yn cynnwys y canlynol:

Yn ychwanegol at rywogaethau dan warchodaeth gyfreithiol, mae gan y broses gynllunio a datblygu rôl sylfaenol mewn diogelu’r amgylchedd ehangach. Dywed Polisi Cynllunio Cymru ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol warchod bywyd gwyllt a nodweddion naturiol yn yr amgylchedd ehangach, gan roi pwys priodol i gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth mewn Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth.

Os oes gan ddatblygiad siawns resymol o effeithio ar safle wedi’i ddynodi neu gynefin/ rhywogaeth dan warchodaeth neu flaenoriaeth, rhaid asesu’r effaith debygol.

Dywed Polisi Cynllunio Cymru, “Mae presenoldeb rhywogaeth a warchodir o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd neu yn y DU yn ystyriaeth sylfaenol. Hynny yw, pan mae awdurdod cynllunio lleol yn ystyried cynnig datblygu a fyddai, o gael ei weithredu, yn debygol o darfu ar neu niweidio rhywogaeth neu ei chynefin”.

Felly mae’n hanfodol sefydlu a oes rhywogaeth a warchodir yn bresennol ac i ba raddau fydd datblygiad arfaethedig yn effeithio arni cyn y gellir dyfarnu caniatâd cynllunio. Cyn cael caniatâd, dylech gynnal asesiad cynefin a gwneud gwaith arolygu am bresenoldeb neu absenoldeb y rhywogaeth a lefel y defnydd. Mae’n arfer gorau cynnal arolwg o’r fath cyn cyflwyno cais cynllunio.

Os gall datblygiad effeithio ar rywogaeth a warchodir ac os yw’r awdurdod eisiau i arolwg gael ei gynnal, rhaid i chi gwblhau hynny a gweithredu unrhyw warchodaeth angenrheidiol cyn derbyn caniatâd. Gall hyn gynnwys mesurau fel drwy amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio.

O dan amgylchiadau priodol, gall y caniatâd hefyd bennu amod sy’n atal y datblygiad cyn cael trwydded i ddechrau o dan gyfraith bywyd gwyllt briodol.

Ceir rhagor o gyfarwyddyd am ystyried rhywogaethau a warchodir mewn datblygiadau yn ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009)’. Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyngor am sut dylai’r system cynllunio defnydd tir gyfrannu tuag at warchod a gwella bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearegol. Darllenwch y ddogfen ar y cyd â ‘Pholisi Cynllunio Cymru’.

Mae Atodiad 7 TAN 5 yn esbonio’r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer gwarchod adar, moch daear, anifeiliaid eraill a phlanhigion. Mae’n esbonio lle bydd angen trwyddedau efallai ar gyfer rhai gweithrediadau cysylltiedig â datblygu. Mae rhestr o’r holl rywogaethau a warchodir o anifeiliaid a phlanhigion ar gael yn Atodiad 9 TAN 5 o dan Dabl 2.

Mae sawl ffynhonnell, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi cyfarwyddyd pellach ar safleoedd a rhywogaethau dan warchodaeth yng Nghymru.

Credyd llun: 'Forest Harvesting (22)' gan Disco-Dan. Credyd trwydded.

Chwilio A i Y