Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newidiadau Materion sy'n Codi i Ymgynghoriad MAC

Yn dilyn y Sesiynau Gwrandawiad a gynhaliwyd fel rhan o'r archwiliad cyhoeddus i CDLl Pen-y-bont ar Ogwr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal ymgynghoriad ar y Newidiadau Materion sy'n Codi (MACs). Cynhaliwyd y sesiynau gwrandawiad gan Nicola Gulley Arolygydd Cynllunio, a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Yn deillio o'r sesiynau gwrandawiad hyn roedd cyfres o Newidiadau Materion yn Codi drafft. Cytunwyd ar y MACau gyda'r Arolygydd ac mae angen y newidiadau hyn i wneud y Cynllun yn gadarn.

Gellir gweld yr Atodlen o MACs a dogfennau ategol yn y Swyddfeydd Dinesig yn ystod oriau agor arferol ac mewn llyfrgelloedd yn ystod oriau agor arferol.

Mae dogfennau ymgynghori MACs yn cynnwys y canlynol:

  • Atodlen o MACs
  • Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) Atodol
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) Atodol

Dylid darllen y MACs ar y cyd â’r dogfennau a ganlyn:

  • Pwyntiau Gweithredu Sesiwn Gwrandawiad wedi'u diweddaru
  • Datganiad ysgrifenedig y CDLl Adnau
  • Mapiau Cynigion y CDLl Adnau

Mae’r Atodlen o MACs yn newidiadau sylweddol sy’n effeithio ar weithredu’r Cynllun, fel geiriad polisi, testun esboniadol neu fapiau cynigion.

Cyflwynir y mân newidiadau golygu (MECs) nad ydynt yn effeithio ar sylwedd y Cynllun er gwybodaeth yn unig ac ni wahoddir sylwadau.

Dylid pwysleisio y dylai sylwadau ar y cam hwn o archwiliad y Cynllun ymwneud â’r MACs yn unig ac ni ddylent geisio ychwanegu at sylwadau blaenorol na chyflwyno gwrthwynebiadau newydd i’r Cynllun. Rhaid i bob sylw nodi’r MAC neu’r ddogfen ategol y mae’n ymwneud ag ef a nodi’n glir a yw’r MAC yn cael ei gefnogi neu ei wrthwynebu, ynghyd ag esboniad a rhesymu priodol, gan gynnwys sut y dylid newid y Cynllun i’w wneud yn gadarn.

Lleisio eich barn

Mae'r ymgynghoriad ar y MACs am gyfnod o 6 wythnos. Mae’r cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 31 Gorffennaf ac yn dod i ben ar 11 Medi 2023.

Gellir gwneud sylwadau drwy’r dulliau canlynol:

  • Drwy lawrlwytho'r ffurflen sylwadau (dogfen Word) ac e-bostio'r ffurflen wedi'i llenwi i ldp@Bridgend.gov.uk neu ei phostio i'r cyfeiriad isod
  • Drwy ysgrifennu at Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Bydd sylwadau a wneir yn briodol ar y MACs yn cael eu hanfon at yr Arolygydd i'w hystyried. Bydd hyn yn hysbysu'r Arolygydd wrth iddo gwblhau ei Adroddiad ysgrifenedig i'r Archwiliad o'r CDLl Adnau.

Bydd sylwadau ac enwau cynrychiolwyr yn cael eu cyhoeddi ond bydd gwybodaeth bersonol bellach yn cael ei golygu.

Cysyllt

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiad ynghylch yr ymgynghoriad hwn at:
Ffôn: 01656 643168

Cysyllt

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud ag Archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol at:
Ffôn: 07977845855

Chwilio A i Y