Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriadau cynigion cyn-adneuo

At ddibenion ymgynghori, mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Cynigion Cyn-adneuo CDLl Pen-y-bont ar Ogwr sy’n amlinellu Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun a’r Strategaeth sy’n Cael ei Ffafrio. Caiff y rhain eu dangos ar ffurf Diagram Strategol a’u gweithredu drwy Bolisïau Strategol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Chwefror a 31 Mawrth 2009.

Mae’r Cynigion Cyn-adneuo hefyd wedi bod yn destun Arfarniad Cychwynnol annibynnol o Gynaliadwyedd (sy’n cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) ac maent wedi cael eu sgrinio o safbwynt Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae Cynigion Cyn-adneuo Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer y CDLl sy’n datgan:

Erbyn 2021, caiff Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gweddnewid i fod yn rhwydwaith cynaliadwy, diogel, iach a chynhwysol o gymunedau sy’n cynnwys aneddiadau cryf, cyd-ddibynnol a chysylltiedig sydd â gwell ansawdd bywyd a chyfleoedd i bawb sy’n byw a gweithio yn yr ardal, yn ymweld â hi neu’n ymlacio ynddi.

Y catalyddion i’r gweddnewidiad hwn fydd:

  • canolfan gyflogaeth, fasnachol a gwasanaethau ranbarthol lwyddiannus ym Mhen-y-bont ar Ogwr
  • cyrchfan bywiog ar lan y dŵr, yn croesawu twristiaid, ym Mhorthcawl
  • Maesteg wedi cael ei hadfywio
  • cymunedau sy’n ffynnu yn y Cymoedd

Mae’r Cynigion Cyn-adneuo wedi’u seilio o amgylch y pedair thema ganlynol:

  • Cynhyrchu mannau cynaliadwy o ansawdd uchel
  • Amddiffyn a gwella’r amgylchedd
  • Lledaenu ffyniant a chyfle drwy adfywio
  • Creu cymunedau diogel, iach a chynhwysol

Mae rhoi Strategaeth y CDLl ar waith yn llwyddiannus yn dibynnu ar dair elfen:

  • Gweithredu pedair ardal dwf allweddol o safbwynt adfywio strategol
  • Datblygu pedwar safle cyflogaeth strategol
  • Gwireddu prosiectau adfywio eraill sy’n cael eu targedu

Yn ogystal â bod y dogfennau i gyd ar gael ar-lein, maent ar gael yn y mannau isod:

  • Yn eich llyfrgell leol
  • Yng Nghanolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr

Gan fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben erbyn hyn, caiff yr holl sylwadau eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a bydd unrhyw newidiadau priodol yn cael eu gwneud i’r strategaeth sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y CDLl. Caiff y strategaeth ddiwygiedig ei hymgorffori wedyn yng Nghynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwn yn ymgynghori ymhellach â’r cyhoedd ynglŷn â hwn yn 2010.

Cyswllt

Grŵp Datblygu
Ffôn: 01656 643670
Cyfeiriad: Cyfarwyddwr Cymunedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr,, CF31 4WB.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Chwilio A i Y