Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cerbydau wedi’u gadael

Mae gan y cyngor y pŵer i symud neu gael gwared ar gerbydau wedi’u gadael dan Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978. Fodd bynnag, nid oes modd symud cerbydau wedi’u gadael o dir preifat heb ganiatâd gan y tirfeddiannwr.

Sut i wybod os yw cerbyd wedi’i adael

Mae’n bosib bod cerbyd wedi cael ei adael yn yr amgylchiadau canlynol:

Sut i adrodd am gerbyd wedi’i adael

Os ydych chi’n meddwl bod cerbyd wedi cael ei adael, cysylltwch â ni. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth i ni â phosib fel y gallwn ddod o hyd i’r cerbyd ac ymdrin ag ef.

Os gallwch, nodwch:

  • rif cofrestru’r cerbyd
  • gwneuthuriad, model a lliw’r cerbyd
  • ym mha le y gallwn ddod o hyd i’r cerbyd

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan rydym wedi dod o hyd i’r cerbyd wedi’i adael, byddwn yn ei dagio ac yn gosod hysbysiad symud. Os na chaiff y cerbyd ei symud o fewn saith niwrnod, neu os na ellir dod o hyd i’r perchennog, byddwn yn ei symud.

Cyswllt

Ffôn: 01656 643643

Chwilio A i Y