Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cyhoeddi ymgyrch Nadolig blynyddol i roi hwb i ganol trefi.

Mae’r cyngor yn cyhoeddi ei ymgyrch blynyddol ‘Treuliwch yr Ŵyl yng nghanol eich tref' yr wythnos hon, fel rhan o fenter i annog pobl i ‘siopa’n lleol' a chefnogi busnesau annibynnol.

Yn ogystal â'r marchnadoedd stryd Nadolig traddodiadol dan arweiniad Green Top Events, gall siopwyr Nadolig edrych ymlaen at ‘Farchnad Rithiol’ yn cynnwys y stondinwyr sydd wedi symud dros dro o'r farchnad dan do hanesyddol. Yn dangos eu cynhyrchion ar-lein, bydd y dudalen farchnad ar-lein hefyd yn cael ei diweddaru gyda manylion safleoedd newydd, a marchnadoedd pop-yp yng Nghanolfan Siopa Y Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cyhoeddi dychweliad y wefan ‘Nadolig Digidol’ sy’n hyrwyddo cynigion arbennig gan fasnachwyr lleol. Gellir manteisio ar y cynigion arbennig drwy lawrlwytho’r apiau poblogaidd ‘We Love BRIDGEND / MAESTEG / PORTHCAWL’ drwy’r Apple App Store neu Google Play drwy chwilio am BRIDGEND / PORTHCAWL / MAESTEG.

Yn ogystal, gwahoddir preswylwyr i fynd i hwyl yr ŵyl gyda chyfres o ddigwyddiadau gan Gynghorau Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl, yn cynnwys Goleuo’r Goleuadau Nadolig, yr Orymdaith Nadolig, a Nadolig Fictoraidd.

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y digwyddiadau a’r gorymdeithiau Nadolig diweddaraf sy’n cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol ar wefan y cyngor.

Mae wedi bod yn rhai misoedd anodd i fusnesau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr gyda Wilko’s yn cau a’r farchnad dan do yn cau ei drysau dros dro oherwydd RAAC, felly pleser o’r mwyaf yw gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddeiliaid stondinau a chynnig presenoldeb ar-lein iddynt yn ein ‘Marchnad Rithiol’, wrth iddynt symud i’r safle newydd yr ydym yn ei baratoi. Gyda detholiad gwych o siopa Nadolig ar gynnig gan fusnesau yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl, hoffwn annog siopwyr i ymweld â masnachwyr annibynnol lleol, a’u cefnogi, wrth i’r diwrnod mawr agosáu. Mae canol ein trefi wrth galon y gymuned leol, a thrwy gefnogi'r digwyddiadau hyn, gallwn ni i gyd helpu i greu atgofion y Nadolig er mwyn i’n cymunedau ddod ynghyd a mwynhau.

Y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Adfywio

Rwy’n croesawu’r gefnogaeth barhaus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'r dudalen we ‘Marchnad Rithiol’ a fydd yn caniatáu cwsmeriaid i brynu ein cynhyrchion arbennig yn rhwydd. Bydd hyn yn helpu i gadw ein busnesau, a deiliaid stondinau eraill, wrth flaen meddyliau cwsmeriaid nes y gallwn ail-agor yn ein safle newydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Os allwch chi, cefnogwch siopau lleol y Nadolig hwn.

Hayley Davies, Perchennog Tilly’s Rawsome Pet Food, un o fasnachwyr ym Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y