Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Nadolig Rithiol

Mae Neuadd y Farchnad yn y Rhiw bellach ar agor!

Bydd masnachwyr dethol yn ailagor, ac yn sefydlu siop dros dro yn yr hen Officer’s Club, Uned 6 yng Nghanolfan Siopa y Rhiw, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd cyffyrddiadau gorffen yn cael eu cwblhau yr wythnos nesaf gydag oriau masnachu arferol i ailddechrau erbyn diwedd yr wythnos.

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cartref newydd dro dro a rhithiol y Nadolig hwn.

Ers ei hagoriad ym mis Mai 1972, mae’r farchnad hanesyddol 51 oed wedi chwarae rhan gref yn y gymuned leol, gan gynnal amrywiaeth o fasnachwyr annibynnol a theuluol, gyda rhai ohonynt wedi bod yn gysylltiedig â’r farchnad o’r cychwyn cyntaf.

Er budd diogelwch cyhoeddus, bu’n rhaid i'r farchnad gau yn ddiweddar ar ôl i arolwg gan arbenigwr a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru gadarnhau bod problem bosibl gyda Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn rhannau o do neuadd y farchnad.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r masnachwyr marchnad, Canolfan Siopa y Rhiw, diogelwch bwyd y Shared Regulatory Services, timau safonau masnach ac iechyd amgylcheddol, Busnes Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Cyngor ar Bopeth, er mwyn cefnogi masnachwyr, a’u cynorthwyo gyda dewisiadau safleoedd amgen fel:

  • marchnadoedd stondinau dros dro yng Nghanolfan Siopa y Rhiw
  • ail-leoli stondinau mewn unedau yng Nghanolfan Siopa y Rhiw a safleoedd eraill yng nghanol y dref.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda masnachwyr ac yn cynnig y cyfle i gwsmeriaid ddysgu mwy am eu cynnyrch, a phrynu stoc ar-lein hefyd drwy ein marchnad rithiol.

Candy Corner

Yn arbenigo mewn melysion a danteithion.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Peter Wood & Sons

Mae’r Cigydd a’r Siop Delicatessen hon, sy’n fusnes teuluol, wedi bod yn masnachu yn y farchnad ers dros 50 mlynedd. Darparwyr cigoedd Prydeinig o ansawdd uchel.

Uned 18, Canolfan Siopa y Rhiw

Memorable Moments Vintage Toys Bridgend

Rhestr stoc o hen deganau a nwyddau.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Marlog's Barbers

Gwasanaeth Trin gwallt i ddynion a Barbwr

Mae Jammie ar gael o hyd ar gyfer apwyntiadau, gallwch gysylltu ag ef yn uniongyrchol drwy ei dudalen fusnes Instagram.

The Craft Cwtch

Yn darparu gwlân, patrymau, bachau, gweill a llawer mwy. Cymerwch ran yn eu gweithdai crefft, a chael cyfle i ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau â phobl sydd â’r un diddordebau â chi.

 

Uned 22, Canolfan Siopa y Rhiw

Fone Excellence

Arbenigwyr electroneg ac atgyweirio.

Mae safleoedd newydd wedi’u cadarnhau, cadwch lygad am fwy o wybodaeth.

Wheely's

Siop goffi eco-gyfeillgar a dosbarthwyr Candi Americanaidd, Diodydd, Creision, Takis, Space Candy a Prime Hydration

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Nips and Tucks

Yn arbenigo mewn dillad, teilwra ac addasiadau dillad. Yn darparu llenni rhwyd, gwlân a ffabrigau.

Yn dod yn fuan i’r Officer’s Club, Canolfan Siopa y Rhiw.

Cydnabyddiaeth llun: Bakestones

Bakestones

Siop fara deuluol yn arbenigo mewn cacenni cri, a danteithion eraill wedi’u pobi.

9 Stryd y Farchnad, canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Tilly's Rawsome Pet Food

Busnes teuluol yn arbenigo mewn bwyd anifeiliaid amrwd a danteithion naturiol.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

The Kind Human Club

Stondin fwyd yn seiliedig ar blanhigion yn darparu bwydydd llysieuol a fegan.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Cydnabyddiaeth llun: Fruit Fayre

Fruit Fayre

Gwerthwr llysiau arbenigol yn darparu ffwythau a llysiau ffres.

Yn aros am safle, cadwch lygad.

Cookmate

Cyflenwr arbenigol bragdy cartref, addurno cacennau a siop fara.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Sandra's Jewellers

Arbenigo mewn batris oriawr, strapiau oriawr, trwsio oriawr/cloc, tynnu linciau.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Speccies

Optegwyr nad ydynt yn profi sy’n darparu sbectolau a sbectolau haul gyda phresgripsiwn am brisiau sy’n cyd-fynd â chostau.

Yn aros am safle, cadwch lygad.

Pen-y-Bont Pet Supplies

Cynhyrchion anifeiliaid anwes, danteithion a bwyd adar gwyllt.

Uned 6, Canolfan Siopa y Rhiw

Chwilio A i Y