Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2024 ar agor

Mae cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2024 ar agor.

Mae'r gwobrau'n gyfle blynyddol i ddathlu cyflawniadau unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at fywyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys trefnydd grŵp cymorth colli baban, preswylydd a wirfoddolodd ei wasanaeth trydanol yn rhad ac am ddim i osod llu o ddiffibrilwyr ar draws y fwrdeistref sirol a warden eglwys sy'n casglu siopa a phresgripsiynau'n rheolaidd i nifer o breswylwyr hŷn.

Mae'n rhaid i'r rhai a enwebwyd fyw neu weithio'n lleol a dangos y math o werthoedd sy’n gwneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych. Efallai eu bod wedi:

  • codi arian sylweddol i elusen
  • gwneud cymwynas sydd wedi dangos dewrder aruthrol
  • mynd y filltir ychwanegol i eraill yn rheolaidd
  • rhoi’r gymuned leol ar y map
  • cyflawni rhywbeth arbennig iawn dros y 18 mis diwethaf

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i nifer o bobl ysbrydoledig, grwpiau eithriadol a sefydliadau rhagorol sy'n ei gwneud yn lle arbennig i fyw, gweithio ac astudio ynddi ac ymweld â hi.

Rydym eisiau tynnu sylw at yr arwyr di-glod a sefydliadau ymrwymedig sy'n gwneud cyfraniad anhunanol at fywydau eraill.

Rwy'n annog pobl i enwebu unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyliadau i wasanaethu eu cymunedau lleol, fel eu bod yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol.

Dywedodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd William Kendall:

Mae tair ffordd o enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer. Gallwch:

Nodwch mai ar gyfer cyflawniadau newydd yn unig y gellir enwebu buddugwyr y gorffennol a dylai pobl sy'n cael eu henwebu ar gyfer gwaith â thâl fod wedi cyflawni gwaith eithriadol y tu hwnt i ddisgwyliadau'r swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw dydd Gwener 12 Ionawr 2024.

Chwilio A i Y