Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adolygiad o addysg ôl-16

Mae’r drafodaeth hon ar addysg ôl-16 yn adeiladu ar ymgynghoriad cynharach. Mae tri opsiwn ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol wedi cael eu datblygu o chwe chysyniad gwreiddiol. Hoffem gael eich barn arnynt a hefyd eu gwahanol ganlyniadau.

Yr opsiynau ar gyfer addysg ôl-16 yn y dyfodol

  1. Cymysgedd o chweched dosbarth mewn ysgolion gyda rhywfaint o uno i greu canolfan(nau) chweched dosbarth newydd a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
  2. Cymysgedd o chweched dosbarth mewn ysgolion gyda rhywfaint o uno i greu canolfan(nau) chweched dosbarth newydd yn cael ei llywodraethu gan goleg addysg bellach.
  3. Cadw’r chweched dosbarth ym mhob ysgol, ond gyda datblygiad pellach er mwyn gwella darpariaeth yr opsiwn hwn.

Nid yw Opsiynau 1 a 2 yn cael eu hystyried ar wahân yn llwyr a gellid bwrw ymlaen ag elfennau o’r ddau opsiwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn nogfennau’r ymgynghoriad isod.

Dogfen yr ymgynghoriad:

Ymateb i’r ymgynghoriad:

Anfonwch ymatebion i’r cyfeiriad isod.

Cyswllt

Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad: Swyddfeydd Sifil, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Dyddiad cau’r ymgynghoriad:

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 21 Chwefror 2020.

Dyddiadau ar gyfer digwyddiadau’r ymgynghoriad

Cyfle i siarad gyda’r swyddogion ymgysylltu am yr ymgynghoriad ar y dyddiadau isod.

Dyddiadau'r ymgynghoriad
Ysgol Dyddiadau Amser
Coleg Cymunedol y Dderwen 14 Ion 5yp
Ysgol Brynteg 21 Ion 5yp
Ysgol Maesteg 22 Ion 5yp
Ysgol Gyfun Cynffig 23 Ion 5yp
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd 28 Ion 5yp
Ysgol Gyfun Bryntirion 29 Ion 5yp
Ysgol Gyfun Porthcawl 6 Chwef 5yp
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr 10 Chwef 5yp
Ysgol Gyfun Pencoed 12 Chwef 5yp
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath 13 Chwef 5yp

 

Chwilio A i Y