Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Digartrefedd 2019

Crynodeb

Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2018, cynhaliwyd adolygiad digartrefedd statudol cynhwysfawr gennym. Fel ymateb i’r adolygiad, nododd y Cyngor beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a ble mae eisiau bod erbyn 2022. Mae negeseuon allweddol yr adolygiad i’w gweld yn y Strategaeth Digartrefedd. Hefyd, mae’r strategaeth yn amlinellu sawl maes gwaith sy’n cael ei ddilyn ar hyn o bryd er mwyn cyflawni ei nodau a’i amcanion erbyn 2022, yn ogystal ag unrhyw waith angenrheidiol pellach.

Mae’r strategaeth yn amlinellu’r canlynol:

  • y darlun presennol o ran digartrefedd yn y fwrdeistref sirol
  • ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nawr
  • beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud yn dda
  • gweledigaeth ar gyfer ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau bod

Adroddir ar y strategaeth a’i diweddaru ymhen pedair blynedd i ystyried unrhyw wybodaeth newydd, ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol. Bydd hefyd yn datgan unrhyw amcanion a nodau newydd a nodwyd ac y bydd angen ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn eu cylch efallai.

Llinell amser yr ymgynghoriad
Dyddiad dechrau'r ymgynghoriad 12 Ebrill 2019
Dyddiad gorffen yr ymgynghoriad 24 Mai 2019
Adroddiad yr ymgynghoriad i'r Cabinet ar ei ganlyniadau Gorffennaf 2019
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen ymgynghoriadau ein gwefan ni Gorffennaf 2019

Sut i ymateb

Gallwch fynegi eich barn drwy gwblhau un o’r canlynol:

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cofiwch y gallwch chi leisio eich barn o hyd ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y