Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Am Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr

Cefnogi cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys asiantaethau amrywiol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'i gilydd i leihau troseddu, anhrefn ac ofn troseddu yn lleol, er mwyn gwella ansawdd bywyd a chreu amgylchedd byw a gweithio diogelach.

Nod y bartneriaeth yw mynd i'r afael ag anghenion unigolion a chymunedau i'w galluogi i deimlo'n ddiogelach a mwynhau mwy o gyfleoedd yn eu cymunedau lleol.

Yn dilyn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, penderfynodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr ymgorffori gweithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei Asesiad Lles a’i weithgareddau cynllunio a thrwy ei wneud yn is-fwrdd o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae cefnogi Cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus wedi’i gynnwys yng Nghynllun Lles Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n nod cyffredinol ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.

Aelodau statudol

Dyma aelodau statudol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol:

Aelodau eraill

Nid oes raid i’r sefydliadau hyn fod yn aelodau o’r bartneriaeth ond maent wedi dewis bod. Dyma’r sefydliadau:

Cyswllt

Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 306069

Chwilio A i Y