Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pyst Siarad

Mae'r safle hwn yn safle rhyddhau draenogod ar gyfer draenogod wedi’u hadsefydlu. Mae draenogod wedi’u cerfio mewn pren ar ben pob postyn siarad.

Mae pyst siarad yn ffordd hwyliog o sgwrsio â pherson arall yn dawel, ond o bellter, gan fod y sain yn cael ei gludo o dan y ddaear drwy bibell.

Maent yn gyfle da i gyfoethogi sgiliau llafar.

Mae’r Pyst Siaradus yn rhan o lwybr cerfluniau Frog Pond Wood.

Llwybr cerfluniau wedi’u creu gan Ami Marsden a Nigel Simpson

Gweithgaredd

Mae’r draenogod ar ben y pyst hyn yn ffrindiau sydd wedi colli ei gilydd yn y coed.

Allwch chi roi gwybod i’ch gilydd ble rydych chi drwy ddisgrifio ble rydych chi a beth y gallwch ei weld o’ch cwmpas?

Gwaith celf gan Beth Marsden

Awgrymiadau

Yn ogystal â siarad, mae gwrando yn bwysig hefyd.

  1. Beth am gau eich llygad a gwrando i weld beth allwch chi ei glywed yn y byd naturiol? Gan ddefnyddio eich bysedd, cyfrwch faint o wahanol synau y gallwch eu clywed. Allwch chi glywed trydar adar, y gwynt yn y coed?
  2. Beth am anfon neges drwy’r bibell o dan y ddaear, a chael sgwrs â’r mwydod a’r creaduriaid sy’n byw o dan y ddaear?
  3. Beth am greu draenog drwy ddod o hyd i ddarn o fwd a gwthio ychydig o ffyn arno fel pigau draenog, a defnyddio unrhyw ddeunyddiau naturiol eraill y daethoch o hyd iddynt fel llygaid, adenydd neu goesau?

Gweld cerfluniau eraill

Chwilio A i Y