Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood
Mae Frog Pond Wood yn em gudd. Mae’n grêt ar gyfer teithiau cerdded byr a byddwch yn teimlo eich bod yng nghalon cefn gwlad Cymru er bod stad ddiwydiannol tu cefn i chi. Mae’r coed yn goetir derw/ynn cymysg yn bennaf, gyda phwll a rhywfaint o ardaloedd o dir gwlyb. Mae’n dri phwynt dau hectar o faint. Rydym yn ei rheoli fel bod y gymuned leol yn gallu bod yn agos at fyd natur.
Llwybr natur
Mae’r llwybr 840 metr yn eithaf gwastad gyda rhywfaint o ardaloedd mwdlyd ac anwastad. Nid oes unrhyw stepiau.
Rhywogaethau o blanhigion:
- ynn
- llafnlys mawr
- rhedyn tafod yr hydd
- cyll
- derw digoes
Rhywogaethau o anifeiliaid:
- picellwr praff
- broga
- mursen
- gwas y neidr
- titw mawr
- iâr ddŵr
- telor y cnau
- ystlum lleiaf
- llygoden y coed
Os gwelwch chi y rhain neu rywogaethau eraill yma, tynnwch lun a’i ddangos i ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Cerflun ceidwad natur
Mae’r parc yma’n cynnwys Ceidwad y Pwll.
Hanes lleol
Mae gan y goedwig gysylltiad rhyfeddol â’n gorffennol diwydiannol. Cadwch lygad am y llwybr hir syth ar hyd ymyl ddwyreiniol y warchodfa, a arferai fod yn llwybr tram ceffylau ar un adeg. Agorodd y dramffordd, sy’n cael ei hadnabod fel Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl, yn 1828 fel ffordd i dram ceffylau. Roedd yn cludo haearn a glo Dyffryn Llynfi i’r arfordir. Roedd y doc newydd a agorodd ar yr un pryd ym Mhorthcawl yn rhan greiddiol o’r system drafnidiaeth newydd.
Yn y 1860au, daeth rheilffordd stêm i gymryd lle’r tram. Gallwch ddilyn hen ffordd y tram sydd wedi cael ei hailddatblygu yn llwybr hardd, addas i deuluoedd. Cadwch lygad am godau QR mewn safleoedd ar hyd y llwybr, a fydd yn dod â stori’r rheilffordd yn fyw.
Lleoliad:
Mae parcio am ddim cyfyngedig yng Nghanolfan Fenter y Pîl a maes parcio cyhoeddus tu ôl i’r feddygfa ar Stryd y Bont ym Mynydd Cynffig.
Gwirfoddoli neu drefnu trip ysgol yma
Os ydych chi eisiau cefnogi’r safle yma, trefnu ymweliad addysgol, neu wirfoddoli yng nghefn gwlad yn gyffredinol, cysylltwch â ni.