Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gofalu am arfordir Sandy Bay

Dim ond ar dir nad yw’n eiddo preifat neu sy’n cael ei gynnal yn breifat yn unig y caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wario arian cyhoeddus. Mae hyn oherwydd y modd y caiff ei ariannu.

Mae ardal Sandy Bay, Traeth Coney a Thraeth Trecco Bay ym Mhorthcawl yn achosi tipyn o ddryswch. Cymerir yn aml bod y Cyngor yn gyfrifol am y darn hwn o'r glannau ar ei hyd. Fodd bynnag, nid dyma’r achos.

Mae’r cyfrifoldebau fel a ganlyn:

  • mae’r llinellau dotiau ar y map yn dangos y tir sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • caiff y rhan fwyaf o’r traeth a’r tir i’r chwith o’r ardal hon eu cynnal gan berchenogion Ffair Traeth Coney
  • caiff adran lai ei chynnal gan berchenogion Hi Tide
  • mae’r traeth a’r tir i’r dde o’r llinell ddotiau ar y dde yn cael eu cynnal gan Barc Carafanau Bae Trecco

Rydym yn gwacau'r 220 bin yn ardal Porthcawl yn rheolaidd, ond mae delio â sbwriel yn aml yn heriol. Mae tipyn ohono yn dod i mewn qr y llanw, neu’n cael ei greu dros nos, yn ystod Gwyliau Banc prysur ac ar gyfnodau eraill pan nad oes staff ar ddyletswydd.

Sut mae’r Cyngor yn delio â sbwriel

Mae’r Cyngor yn delio â sbwriel yn ardal Sandy Bay drwy’r dulliau canlynol:

  • casglu sbwriel o’r ardaloedd y mae'n gyfrifol amdanynt
  • ariannu grŵp casglu sbwriel wythnosol ychwanegol
  • gweithio’n agos gyda grwpiau lleol, gan gynnwys Surfers Against Sewage, Achubwyr Bywydau Porthcawl, Cadwch Gymru'n Daclus ac eraill
  • ychwanegu biniau ar hyd ffordd Trwyn Rhych sy’n mynd o dop safle Sandy Bay rhwng Traeth Trecco, Hi Tide a’r ffair
  • cysylltu â busnesau lleol i drafod ffyrdd o ddelio â'r broblem
  • annog ymwelwyr i gael gwared ar eu sbwriel mewn modd cyfrifol

Chwilio A i Y