Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Baw cŵn

Mae cael gwared ar wastraff eich ci yn gyhoeddus yn hawdd. Codwch y gwastraff gan ddefnyddio bag, ac wedyn ei roi mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus neu fynd ag ef adref a’i roi yn eich sach tirlenwi.

Mae baw cŵn yn amhleserus, peryglus a niweidiol. Mae peidio â glanhau ar ôl anifeiliaid anwes yn creu risg i bawb o glefydau a heintiau posib a all eu gwneud yn ddall.

 

I dargedu perchnogion anghyfrifol, rydym wedi pasio Gorchymyn Gwarchod Gofod Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn. Ym mhob gofod cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol, mae’n datgan yr amodau hyn ar gyfer perchnogion sydd â chŵn o dan eu rheolaeth:

  1. Rhaid i chi gasglu a chael gwared ar ysgarthion eich ci drwy eu codi a’u rhoi mewn bag, neu ddefnyddio dull casglu arall addas. Dylid gadael yr ysgarthion mewn bag mewn bin sbwriel neu fin penodol ar gyfer eu casglu, neu fynd â hwy adref.
  2. Rhaid i chi gario’r bag neu’r dull addas arall ar gyfer casglu ysgarthion y ci.
  3. Pan fydd swyddog ag awdurdod yn gofyn am hynny, rhaid i chi roi’r ci sydd dan eich rheolaeth ar dennyn mewn lleoliad penodol neu am gyfnod penodol.

Nid yw rheolau’r gorchymyn yn berthnasol i berson ag anabledd fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fodlonir yr holl amodau canlynol:

  • mae’r ci wedi cael ei neilltuo i rywun i’w helpu gyda’i anabledd
  • mae’r ci wedi cael ei hyfforddi’n benodol/ffurfiol gan elusen briodol
  • mae gan y person anabledd sy’n ei atal rhag casglu ysgarthion ei gi

Chwilio A i Y