Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor a chefnogaeth i fusnesau

Mae gennym ni wybodaeth a phrofiad i helpu’r rhai sy’n bwriadu sefydlu neu ehangu busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn annog ymholiadau gan sefydliadau o bob maint, o brosiectau sefydlu bychain i gwmnïau aml-genedlaethol mawr. Rydym yn trosi cymaint o ymholiadau â phosib yn llwyddiant busnes.

Mae pob ymholiad yn cael sylw mewn ffordd gyfrinachol, broffesiynol a chyfeillgar. Mae cyngor am ddim yn cael ei ddarparu am gynhwysion hanfodol prosiect busnes llwyddiannus.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cyllid
  • safleoedd ac eiddo
  • mentrau hyfforddi
  • digwyddiadau busnes lleol

Rydym yn gweinyddu cynlluniau Gronfa Adfywio Arbennig i gefnogi busnesau sy’n cychwyn a chwmnïau sydd eisoes yn masnachu neu’n buddsoddi yn y fwrdeistref sirol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy’n cefnogi busnesau. Gallwn eich helpu chi i wneud y penderfyniadau cywir a gwneud cynnydd gyda’ch cynlluniau datblygu’n gyflym ac yn bositif.

Cymorth yn ystod pandemig Covid-19

Mae'r cyngor wedi darparu swm digynsail o gefnogaeth a chyswllt i'r gymuned fusnes leol yn ystod y cyfnod hwn.

Ers dechrau pandemig Covid-19, rydym wedi gwneud 6,500 o daliadau i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n dod i gyfanswm o fwy na £42.4m.

Mae cyllid newydd drwy Dasglu Economaidd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael i fusnesau lleol. Mae'r cyllid yn cefnogi busnesau newydd ac addasiadau i eiddo busnes, sy'n helpu i gefnogi'r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.

Edrychwch i weld a ydych yn gymwys a gwnewch gais am gyllid drwy'r Tasglu Economaidd

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y busnesau sy'n cysylltu â'r cyngor am gymorth a chyngor ychwanegol gan gynnwys:

  • darparu 2,000 o sgriniau tisian i fusnesau lleol fel rhan o'r pecyn cymorth ailddechrau manwerthu
  • dros 300 o weithwyr busnes yn cwblhau cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth Covid-19 sy'n cynnwys ardystio
  • bron i 300 o gofrestrau gwesteion wedi'u dosbarthu i fusnesau lleol i gefnogi'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu fel rhan o'r pecyn ailddechrau twristiaeth a lletygarwch

Yn ogystal â'r cymorth hwn, mae parcio am ddim yn dal ar gael mewn dau faes parcio a gaiff eu rhedeg gan y cyngor i gefnogi masnachwyr. Tan ddiwedd mis Mawrth 2021, gellir parcio am ddim yn:

  • maes parcio aml-lawr y Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr am y tair awr gyntaf
  • maes parcio John Street ym Mhorthcawl rhwng 12pm a 3pm

Mae parcio am ddim bob amser ar gael ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi ym Maesteg a maes parcio Ffordd Penprysg ym Mhencoed.

Sefydliadau cyngor a chymorth busnes

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu ystod eang o gymorth busnes ac mae wedi ymrwymo i gefnogi twf busnesau lleol.

Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Gyda chefnogaeth y cyngor, mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cyfle i fusnesau lleol gyrraedd darpar gwsmeriaid, cleientiaid a chyflenwyr, i gael gwybod am newyddion busnes yn yr ardal a chael mynediad at wahanol gyfleoedd hyfforddi. 

Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi busnesau mewn amrywiaeth o ffyrdd: 

  • Recriwtio – hysbysebu swyddi gwag am ddim, helpu busnesau i gyflogi prentisiaid a chysylltu â miloedd o fyfyrwyr drwy weithgareddau wedi'u targedu.
  • Datblygu staff – cyrsiau wedi'u hariannu i uwchsgilio gweithwyr, prentisiaethau uwch i gefnogi dilyniant staff a hyfforddiant pwrpasol i ddiwallu anghenion penodol.
  • Partneriaeth – cynnig dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau a mentora.

Busnes mewn Ffocws

Mae Busnes mewn Ffocws yn darparu gwasanaeth Busnes Cymru blaenllaw Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyngor busnes un-i-un a hyfforddiant a gweithdai sgiliau busnes i fusnesau bach. 

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth i bobl sy'n dechrau busnes, yn ei redeg a'i ddatblygu, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd ar gael ar-lein neu dros y ffôn. 

Cyflymu Cymru i Fusnesau

Gall Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu eich busnesau i ariannu, eich helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaid, symleiddio eich prosesau gwaith a darparu cymorth am ddim i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau ar-lein i ddatblygu eich busnes. 

Bargen Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR)

Mae Bargen Dinas CCR yn rhaglen y cytunwyd arni rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru i gefnogi twf economaidd sylweddol yn y rhanbarth drwy fuddsoddi, uwchsgilio a sicrhau gwell cysylltedd.

Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Nod Cynllun Graddedigion CCR yw cysylltu graddedigion â busnesau uchelgeisiol yn y rhanbarth. 

Cydffederasiwn Diwydiant Prydain

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn darparu adnoddau defnyddiol i gefnogi busnesau i reoli effaith pandemig y coronafeirws:

  • helpu eich busnes i ddeall y canllawiau a'r Cwestiynau Cyffredin diweddaraf
  • helpu eich busnes i gynllunio o amgylch pynciau cymhleth gyda thaflenni ffeithiau
  • dangos i'ch busnes sut mae busnesau eraill wedi ymateb drwy astudiaethau achos bywyd go iawn

Siambrau Cymru

Gall Siambrau Cymru hwyluso twf i fusnesau Cymru, gan sicrhau bod y Llywodraeth yn eich cefnogi drwy bolisi priodol.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae gwybodaeth a chymorth ar gael drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n datblygu eich busnes neu wedi penderfynu lleihau eich gweithlu. 

Canolfan Byd Gwaith

Gall cyflogwyr gael mynediad at ystod eang o wasanaethau recriwtio drwy'r Ganolfan Byd Gwaith

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a datblygu. Gall busnesau gael benthyciadau a buddsoddiad o £1,000 hyd at £5 miliwn posibl. 

Ffederasiwn Busnesau Bach

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach yn gweithio gydag aelodau, Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr etholedig ac awdurdodau lleol i gefnogi busnesau bach a'r rhai sy'n hunangyflogedig. 

GO Wales

Mae GO Wales yn cysylltu â chyflogwyr, myfyrwyr a graddedigion lleol i gynnig lleoliadau gwaith, profiad gwaith, academïau hyfforddi a swyddi. 

Llywodraeth y DU

Gall Llywodraeth y DU ddarparu gwybodaeth am ffyrlo, cymorth ariannol a chyngor busnes. 

Canolfan Cydweithredol Cymru

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn darparu cymorth ymatebol, dibynadwy a hyblyg i fentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol. 

Chwilio A i Y