Gwneud cais am gefnogaeth fusnes gan Lywodraeth Cymru
Grant Ardrethi Annomestig
Diben y cynlluniau grant yw cefnogi busnesau gyda'u llif arian uniongyrchol a'u helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 sy'n angenrheidiol i reoli lledaeniad Covid-19.
Bwriedir i'r cyllid ymdrin ag effaith busnes o 13 Rhagfyr 2021 hyd at 14 Chwefror 2022.
Mae'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2022 (a phwnc y canllawiau hyn) wedi'u targedu eu natur i ddarparu cymorth uniongyrchol yn bennaf i fusnesau lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden. Bydd y grantiau hefyd yn cefnogi busnesau'r gadwyn gyflenwi ar gyfer y pedwar sector hyn a all ddangos effaith sylweddol o fwy na 40% o ostyngiad mewn trosiant.
Cronfa Argyfwng i Fusnesau
Nod y Gronfa Argyfwng i Fusnesau yw cefnogi busnesau yn y sectorau hamdden, twristiaeth, manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd.
Bydd y gronfa’n cefnogi gyda llif arian ar unwaith a bydd yn helpu i oresgyn canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol Covid-19 a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021.
Bydd y cyllid yn talu am yr effaith ar fusnes rhwng 13 Rhagfyr 2021 ac 14 Chwefror 2022. Mae dau grant ar gael:
Grant A - £1,000 o daliad grant ariannol ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i’r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo.
Grant B - £2,000 o daliad grant ariannol ar gyfer busnesau lletygarwch, manwerthu, hamdden a’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig sy’n cyflogi staff drwy PAYE (yn ychwanegol at y perchennog).
Darllenwch drwy ganllawiau ymgeisio am y Gronfa Cadernid Economaidd cyn cyflwyno’ch cais. Atgoffir ymgeiswyr i beidio â chyflwyno cais mwy nag unwaith ac i beidio â chyflwyno cais os ydynt eisoes wedi gwneud cais am Grant Ardrethi Annomestig.
Bydd y grant yn agor ar gyfer ceisiadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr 2022 a bydd yn cau am 5pm ar 14 Chwefror 2022.
Cefnogaeth argyfwng i’r trydydd sector
Gall grwpiau lleol bychain a mentrau cymdeithasol wneud defnydd o gronfa argyfwng newydd. Mae sefydliadau’n gymwys os ydynt yn cefnogi ymateb i’r pandemig ac mae grantiau o hyd at £100 ar gael.
Cronfa Cadernid Economaidd
Mae’r grant hwn ar gau i ymgeiswyr newydd.
Cronfa gweithwyr llawrydd
Mae’r grant hwn ar gau i ymgeiswyr newydd.
Cwestiynau Cyffredin
Er mwyn i ni ystyried eich cais, rhaid i chi ddarparu copi o ddatganiad banc eich busnes yn dangos manylion eich banc. Ailgyflwynwch y ffurflen gais yn dyfynnu eich rhif cyfrif Ardrethi Busnes i taxation@bridgend.gov.uk.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cronfa Cadernid Economaidd newydd. Bydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i economi, busnesau ac elusennau Cymru sy’n profi gostyngiad mawr mewn masnachu oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Nod y Gronfa yw cau’r bylchau yn y cynlluniau cefnogi sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.
Bydd y gronfa £500 miliwn newydd i Gymru yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Bydd y ffocws ar y rhai sydd heb elwa eisoes o’r grantiau coronafeirws sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
O ran y busnesau o wahanol faint, mae:
- grantiau o £10,000 ar gael ar gyfer micro-fusnesau sy’n cyflogi hyd at naw o bobl, sy’n cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff
- grantiau o hyd at £100,000 ar gael ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda rhwng 10 a 249 o gyflogeion
- cefnogaeth i gwmnïau mwy yng Nghymru sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd allweddol i Gymru
Edrychwch nawr a yw eich busnes yn gymwys am gefnogaeth o’r Gronfa Cadernid Economaidd newydd.
Bydd Cronfa Cadernid Economaidd newydd Llywodraeth Cymru sy’n werth £500m yn darparu cefnogaeth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws a bydd yn helpu sefydliadau i reoli pwysau llif arian. Hefyd bydd yn helpu i roi sylw i’r bylchau nad ydynt yn cael eu cau gan gynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Mae’r gronfa yn fyw nawr ar gyfer ceisiadau drwy wefan Busnes Cymru a bydd ar gael i gwmnïau sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’i nod yw helpu busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol sy’n cael anhawster gyda llif arian.
Mae Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes y Coronafeirws – cynllun newydd dros dro – wedi cael ei lansio. Mae’n cynnwys amrywiaeth o wahanol gynhyrchion, fel benthyciadau, gorddrafft, cyllid anfonebau a chyllid asedau. Wedi’i lansio ar 23 Mawrth, mae’n cael ei gyflwyno gan Fanc Busnes Prydain. Yn bennaf mae’n cefnogi busnesau bach a chanolig i gael benthyciadau a gorddrafft gan fanciau.
Bydd y llywodraeth yn darparu gwarant o 80% i bob benthyciwr ar y benthyciad, i roi hyder pellach iddynt mewn parhau i ddarparu cyllid i BBaCh. Mae hyn yn amodol ar gap ar hawliadau i bob benthyciwr. Ni fydd y llywodraeth yn codi ffi ar fusnesau na banciau am y gwarant hwn a bydd y Cynllun yn cefnogi benthyciadau o hyd at £5 miliwn. Gall busnesau gael y cyllid am y 12 mis cyntaf heb log oherwydd bydd y llywodraeth yn talu’r 12 mis cyntaf o daliadau llog.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Banc Busnes Prydain.
Ydi. Eto, oherwydd nifer digynsail o geisiadau, mae Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru Covid-19 Banc Datblygu Cymru wedi’i ddefnyddio yn llawn nawr.
Er gwybodaeth, dyma fanylion y cynllun. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru Gynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 gwerth £100m i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng. Roedd y Cynllun ar gael gan Fanc Datblygu Cymru am gyfnod cyfyngedig. Ei fwriad yw darparu cymorth i fusnesau sy’n cael anawsterau llif arian oherwydd y pandemig.
Bydd y cynllun benthyciadau’n gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes ledled y DU, a hefyd y cymorth arall sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’n darparu mwy o opsiynau hanfodol ar gyfer busnesau Cymru. Roedd benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000 ar gael i fusnesau:
- sydd wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd
- oedd yn gallu dangos eu bod yn gallu gwasanaethu’r lefel honno o ddyled cyn yr argyfwng
Manylion y Gronfa:
- cronfa o £100m
- benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000, benthyciadau uchafswm yn berthnasol
- cyfalaf 12 mis a gwyliau ad-dalu llog
- dim trefniant na ffioedd monitro
- llog 2% sefydlog am chwe blynedd (yn cynnwys y gwyliau o 12 mis)
Mae manylion am y gronfa, cymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael ar wefan Banc Datblygu Cymru.
Oes. Mae Busnes Cymru wedi lansio cyfres newydd sbon o weminarau sy’n darparu cyngor i BBaCh ledled y wlad sydd wedi’u heffeithio gan argyfwng COVID-19. Cofrestrwch i’r weminarau ar wefan Busnes Cymru.
Mae’r Ysgol Fusnes Dros Dro wedi creu canllaw goroesi i fusnesau bach.
Cwestiwn – mae’r diwydiant pysgota wedi cael ei daro’n galed iawn wrth i farchnadoedd allforio a domestig gau oherwydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus. Oes unrhyw gyllid ar gael?
Ateb – mae grant newydd i gefnogi busnesau pysgota yn ystod pandemig Covid-19 wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, dilynwch y ddolen yma i gael gwybod mwy am y broses ymgeisio ar wefan Gov.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi Cronfa Cadernid y Celfyddydau ar gyfer artistiaid a sefydliadau diwylliannol i’w cefnogi drwy argyfwng Covid-19.
Mae gan y cyngor ffurflen Effaith Busnes ar-lein ar waelod y dudalen yma.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi darparu rhagor o wybodaeth am y newidiadau mae’r Llywodraeth wedi’u sefydlu i gefnogi pobl sydd eisoes yn hawlio budd-daliadau, sydd angen hawlio budd-daliadau, neu sy’n wynebu risg o golli eu swydd o ganlyniad i’r Coronafeirws.
Trawsysgrif graffeg gwybodaeth help Covid-19 ar gyfer busnesau.