Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheoli Parhad Busnes

Proses yw Rheoli Parhad Busnes sydd â’r nod o alluogi busnesau i barhau i weithredu ar lefel dderbyniol sydd wedi’i diffinio ymlaen llaw yn wyneb digwyddiadau sy’n tarfu.

Mae’n helpu arweinwyr busnes i ddeall eu sefydliad a’i wasanaethau hanfodol, ac yn eu galluogi nhw i flaenoriaethu ei ymdrechion adfer yn ystod cyfnodau o darfu.  

 

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae bod â Chynlluniau Parhad Busnes cadarn yn helpu i adeiladu gwydnwch sefydliadol, ac yn amddiffyn yn erbyn effeithiau ariannol tarfu ar wasanaeth, ac effeithiau andwyol ar enw da.

 

Beth ddylai ei gynnwys?

Mae Cynllunio Parhad Busnes yn ymwneud â chynnal eich busnes a’i alluogi i barhau i ddarparu ar gyfer eich cwsmeriaid. Yn hyn o beth, dylai ystyried strwythurau a phrosesau mewnol, ac ystyried rhyng-ddibyniaeth sydd eisoes yn bodoli gyda chleientiaid neu gyflenwyr allanol.

Dylai eich cynllun nodi gweithgareddau hanfodol, asedau ac adnoddau sy’n galluogi darpariaeth eich cynnyrch a’ch gwasanaethau hanfodol drwy gyflawni Dadansoddiad Effaith Busnes.  

Dylai’r cynllun asesu canlyniadau methu â darparu’r gwasanaethau hyn a nodi’r uchafswm cyfnod o amser y bydd modd goddef diffyg y swyddogaethau hyn.

Dylai ystyried effeithiau yn deillio o golled rannol neu gyfan gwbl:

  • Pobl (staff)
  • Eiddo (gofod swyddfa, storfeydd/warysau, ardaloedd blaen ty ac ati)
  • Caffael (offer, nwyddau, cyflenwyr)
  • TGCh, Cyfathrebu a Data

Dylai’r cynllun hefyd nodi camau gweithredu i’w rhoi ar waith mewn achos o darfu ar fusnes, datrysiadau posibl, unigolion cyfrifol a’u manylion cyswllt.  

Dylid adolygu a phrofi eich cynllun yn rheolaidd, a dylai pob aelod staff perthnasol gael gwybod am eu rolau a’u cyfrifoldebau, yn ogystal â chael cyfle i ymarfer a dod yn gyfarwydd â’r cynllun.  

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar arfer da ar gael ar wefan y Sefydliad Parhad Busnes:

Chwilio A i Y