Gwneud cais derbyn i ysgol
Mae gennym ni ddyletswydd statudol i, lle y bo modd, addysgu pob plentyn yn yr ysgol y mae ei rieni neu ei ofalwyr wedi ei dewis.
Yn y rhan helaethaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ddewis yr ysgol y maen nhw yn ei dalgylch. Fodd bynnag mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r ysgol honno gael ei dewis a’i henwi ar ffurflen 'Derbyn i Ysgol' ac i'r ffurflen honno gael ei dychwelyd erbyn y dyddiad cau. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol benodol, hyd yn oed os ydych chi'n byw yn y dalgylch.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. Gwneir ceisiadau i ysgolion cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio’r un ffurflenni â’r rhai at ddefnydd ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae’r amserlenni yr un fath. Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu yw awdurdod derbyn yr ysgol.
Gwnewch gais ar-lein
Gallwch wneud cais ar-lein nawr am le i'ch plentyn mewn ysgol. Cewch dawelwch meddwl o weld bod eich cais wedi cael ei dderbyn drwy gyfrwng Fy Nghyfrif. Mae’n gyflym ac yn hawdd a dim ond cyfeiriad e-bost sydd ei angen.
Cofrestrwch gyda Fy Nghyfrif heddiw neu fewngofnodi er mwyn cyrchu, cwblhewch a chyflwynwch eich ffurflen gais.
Derbyn i ysgolion uwchradd
Yr amserlen dderbyn ar gyfer disgyblion sy’n symud o ysgol iau/gynradd (Blwyddyn 6) i ysgol uwchradd (Blwyddyn 7) ym mis Medi 2025 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2013 a 31 Awst 2014):
Cam Gweithredu | Dyddiad |
---|---|
Ceisiadau yn agor ar: | Dydd Llun 14 Hydref 2024, 10am |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol: | Dydd Gwener 17 Ionawr 2025, 4pm |
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle | Dydd Llun 3 Mawrth 2025 |
Dyddiad cai i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: | Dydd Llun 31 Mawrth 2025, 4pm |
Derbyn i ysgolion babanod, iau a chynradd
Yr amserlen ar gyfer derbyn disgyblion derbyn sy’n dechrau ym mis Medi 2025, neu ddisgyblion sy’n symud o ysgol fabanod (Bl2) i ysgol iau (Bl3) ym mis Medi 2025 (Blwyddyn Derbyn - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021. Ysgol Iau Blwyddyn 3 - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018):
Cam Gweithredu | Dyddiad |
---|---|
Ceisiadau yn agor ar | Dydd Llun 11 Tachwedd 2024, 10am |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol | Dydd Gwener 14 Chwefror 2025, 4pm |
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle | Dydd Mercher 16 Ebrill 2025 |
Dyddiad cau i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: | Dydd Mercher 14 Mai 2025, 4pm |
Derbyn i feithrinfeydd
Nid yw’r amserlen ar gyfer derbyn i feithrinfeydd yn cael ei llywodraethu gan y Cod Derbyniadau Ysgolion (2013).
Yr amserlen ar gyfer derbyn i lefydd meithrin llawn amser gan ddechrau ym mis Medi 2025 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022):
Cam gweithredu | Dyddiad |
---|---|
Ceisiadau yn agor ar | Dydd Llun 06 Ionawr 2025, 10am |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol | Dydd Gwener 4 Ebrill 2025, 4pm |
Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) | Dydd Gwener 30 Mai 2025 |
Derbyniadau rhan amser i feithrinfeydd
Yr amserlen ar gyfer derbyn i lefydd meithrin rhan amser gan ddechrau ym mis Ionawr 2025 neu fis Ebrill 2025 (Ionawr 2025 - plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Rhagfyr 2021. Ebrill 2025 - plant wedi’u geni rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022):
Cam gweithredu | Dyddiad |
---|---|
Ceisiadau ar agor | Dydd Llun 08 Ionawr 2024, 10am |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol | Dydd Gwener 30 Awst 2024, 4pm |
Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) | Erbyn 31 Hydref 2024 |
Y meini prawf ar gyfer lleoedd ysgolion
Mewn rhannau o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae pwysau am leoedd mewn ysgolion. Os yw nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio’r meini prawf ar gyfer hynny i neilltuo lleoedd yn ôl blaenoriaeth. O ganlyniad, efallai na fydd rhai disgyblion yn cael lle yn yr ysgol maent yn ei ffafrio, ac mae hyn yn fwy tebygol os ydynt yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol.
Darllenwch ein Polisi Derbyn i Ysgolion 2024-2025 am fwy o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.
Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Corff Llywodraethu’r ysgol yw ei hawdurdod derbyn.
Cysylltwch â'r ysgolion hyn yn uniongyrchol er mwyn edrych ar y meini prawf derbyn:
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr
Dogfennau
- Prospectws Dechrau Yn Yr Ysgol 2024-25 (PDF 1044Kb)
- Polisi Derbyniadau Ysgolion 2025-26 (PDF 670Kb)
- Prospectws Dechrau Yn Yr Ysgol 2025-26 (PDF 1106Kb)
- Llyfryn gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg (PDF 6809Kb)
- Y cod derbyn i ysgolion (PDF 413Kb)
- Y cod apelau derbyn i ysgolion (PDF 406Kb)
- Meithrin y Cyfnod Sylfaen, Canllawiau i Rieni a Gofalwyr (PDF 656Kb)