Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dalgylchoedd ysgolion

Ysgolion Cymraeg

Nid oes ardaloedd dalgylch ar gyfer ysgolion Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.   

Gall rhieini/gofalwyr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol Gymraeg yn y sir. Fodd bynnag, os bydd rhiant/gofalwr yn gwneud cais llwyddiannus am le mewn ysgol Gymraeg wahanol i’r ysgol Gymraeg agosaf i gartref y plentyn, ni fydd gan y plentyn hwnnw hawl i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol honno.  

I fedru hawlio cludiant ysgol, rhaid i gartref y plentyn fod yn fwy na dwy filltir o bellter cerdded o’r ysgol gynradd Gymraeg agosaf neu dair milltir o bellter cerdded o’r ysgol uwchradd Gymraeg agosaf.

Map o leoliad ysgolion Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr a’r pellteroedd cerdded perthnasol.

Ysgolion ffydd

Nid oes ardaloedd dalgylch ar gyfer ysgolion ffydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  

Gall rhieini/gofalwyr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol ffydd yn y sir. Fodd bynnag, dylai rhieni/gofalwyr nodi mai dim ond ceisiadau i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen -y Fai y mae’r awdurdod lleol yn ymdrin â nhw. Mae pob ysgol ffydd arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn prosesu eu ceisiadau eu hunain.   

Os bydd rhiant/gofalwr yn gwneud cais llwyddiannus am le mewn ysgol ffydd wahanol i’r ysgol ffydd agosaf i gartref y plentyn, ni fydd gan y plentyn hwnnw hawl i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol honno. 

I fedru hawlio cludiant ysgol, rhaid i gartref y plentyn fod yn fwy na dwy filltir o bellter cerdded o’r ysgol ffydd gynradd agosaf neu dair milltir o bellter cerdded o’r ysgol ffydd uwchradd  agosaf.

Map o leoliad ysgolion Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr a’r pellteroedd cerdded perthnasol.

Ysgolion cynradd (ysgolion ffydd ac ysgolion Cymraeg heb ei gynnwys)

Cliciwch ar ysgol i weld map o’i dalgylch.

Ysgolion uwchradd (ysgolion ffydd ac ysgolion Cymraeg heb ei gynnwys)

Cliciwch ar ysgol i weld map o’i dalgylch.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â dalgylchoedd, e-bostiwch os gwelwch yn dda pupilservices@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y