Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwneud cais derbyn i ysgol

Mae gennym ni ddyletswydd statudol i, lle y bo modd, addysgu pob plentyn yn yr ysgol y mae ei rieni neu ei ofalwyr wedi ei dewis.

Yn y rhan helaethaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ddewis yr ysgol y maen nhw yn ei dalgylch. Fodd bynnag mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r ysgol honno gael ei dewis a’i henwi ar ffurflen 'Derbyn i Ysgol' ac i'r ffurflen honno gael ei dychwelyd erbyn y dyddiad cau. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol benodol, hyd yn oed os ydych chi'n byw yn y dalgylch.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. Gwneir ceisiadau i ysgolion cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio’r un ffurflenni â’r rhai at ddefnydd ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae’r amserlenni yr un fath. Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu yw awdurdod derbyn yr ysgol.

Gwnewch gais ar-lein

Gallwch wneud cais ar-lein nawr am le i'ch plentyn mewn ysgol. Cewch dawelwch meddwl o weld bod eich cais wedi cael ei dderbyn drwy gyfrwng Fy Nghyfrif. Mae’n gyflym ac yn hawdd a dim ond cyfeiriad e-bost sydd ei angen.

Cofrestrwch gyda Fy Nghyfrif heddiw neu fewngofnodi er mwyn cyrchu, cwblhewch a chyflwynwch eich ffurflen gais.

Derbyn i ysgolion uwchradd

Yr amserlen dderbyn ar gyfer disgyblion sy’n symud o ysgol iau/gynradd (Blwyddyn 6) i ysgol uwchradd (Blwyddyn 7) ym mis Medi 2024 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013):

Cam Gweithredu Dyddiad
Ceisiadau yn agor ar: Dydd Llun 16 Hydref 2023, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol: Dydd Gwener 19 Ionawr 2024, 4pm
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle Dydd Gwener 1 Mawrth 2024
Dyddiad cai i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: Dydd Gwener 29 Mawrth 2024, 4pm

Edrychwch ar y llythyr gwahoddiad i ymgeisio ar gyfer llefydd Blwyddyn 7 ar gyfer mis Medi 2024

Derbyn i ysgolion babanod, iau a chynradd

Yr amserlen ar gyfer derbyn disgyblion derbyn sy’n dechrau ym mis Medi 2024, neu ddisgyblion sy’n symud o ysgol fabanod (Bl2) i ysgol iau (Bl3) ym mis Medi 2024 (Blwyddyn Derbyn - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020. Ysgol Iau Blwyddyn 3 - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2017):

Cam Gweithredu Dyddiad
Ceisiadau yn agor ar Dydd Llun 13 Tachwedd 2023, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol Dydd Gwener 16 Chwefror 2024, 4pm
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
Dyddiad cau i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: Dydd Mawrth 14 Mai 2024, 4pm

Gweld y llythyr at Rieni / Gofalwyr disgyblion sy’n mynd i’r flwyddyn derbyn ym mis Medi 2024

Gweld y llythyr at Rieni / Gofalwyr ddisgyblion sy’n symud o ysgol fabanod i ysgol iau ym mis Medi 2024

Derbyn i feithrinfeydd

Nid yw’r amserlen ar gyfer derbyn i feithrinfeydd yn cael ei llywodraethu gan y Cod Derbyniadau Ysgolion (2013).

Yr amserlen ar gyfer derbyn i lefydd meithrin llawn amser gan ddechrau ym mis Medi 2024 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021):

Cam gweithredu Dyddiad
Ceisiadau yn agor ar Dydd Llun 08 Ionawr 2024, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol Dydd Gwener 5 Ebrill 2024, 4pm
Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) Dydd Iu 30 Mai 2024

 

Derbyniadau rhan amser i feithrinfeydd

Yr amserlen ar gyfer derbyn i lefydd meithrin rhan amser gan ddechrau ym mis Ionawr 2025 neu fis Ebrill 2025 (Ionawr 2025 - plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Rhagfyr 2021. Ebrill 2025 - plant wedi’u geni rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022):

Cam gweithredu Dyddiad
Ceisiadau ar agor Dydd Llun 08 Ionawr 2024, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol Dydd Gwener 30 Awst 2024, 4pm
Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) Erbyn 31 Hydref 2024

 

Y meini prawf ar gyfer lleoedd ysgolion

Mewn rhannau o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae pwysau am leoedd mewn ysgolion. Os yw nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio’r meini prawf ar gyfer hynny i neilltuo lleoedd yn ôl blaenoriaeth. O ganlyniad, efallai na fydd rhai disgyblion yn cael lle yn yr ysgol maent yn ei ffafrio, ac mae hyn yn fwy tebygol os ydynt yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol.

Darllenwch ein Polisi Derbyn i Ysgolion 2024-2025 am fwy o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.

 

 

Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Corff Llywodraethu’r ysgol yw ei hawdurdod derbyn.

Cysylltwch â'r ysgolion hyn yn uniongyrchol er mwyn edrych ar y meini prawf derbyn:

  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr

 

Cyswllt

Cymorth i Ddysgwyr
Ffôn: 01656 642622

Chwilio A i Y