Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun Gwresogi Caerau

Cefndir

Mae Cynllun Gwresogi Caerau yn brosiect hynod arloesol a fydd yn darparu gwres carbon isel a gostyngiad mewn biliau ynni i eiddo yng Nghaerau.

Dyma’r amcanion:

  • dangos potensial buddsoddi a graddfa cynllun ynni adnewyddadwy lleol arloesol
  • darparu gwell diogelwch ynni a gwytnwch i breswylwyr a busnesau
  • mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac anghydraddoldeb iechyd ymhlith trigolion
  • cefnogi datblygiad diwydiant ynni newydd a chreu cyfleoedd i fusnesau lleol y gadwyn gyflenwi  
  • datblygu lefelau sgiliau ac addysg gymunedol yn yr agenda carbon isel

Mae'r Cynllun a gynigiwyd yn wreiddiol yn cynnig tynnu gwres o ddŵr sydd wedi’i ddal mewn hen weithfeydd glo sydd wedi dioddef llifogydd i ddarparu'r adnodd gwres ar gyfer gwresogi a dŵr poeth ar gyfer eiddo yng Nghaerau.

Ym mis Mehefin 2021, pleidleisiodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cyfres o brosiectau arddangos gwres carbon isel ar raddfa fach yng Nghaerau.

Roedd hyn yn dilyn arfarniad opsiynau chwe mis i'r prosiect ar ôl i adroddiad amlinellu'r heriau o ddefnyddio dŵr cloddfeydd ar gyfer cynllun estynedig, gan gynnwys costau cynyddol ar gyfer gwaith ymchwilio.

Mae cynigion y prosiect bellach yn cynnwys darparu cynllun gwresogi dŵr cloddfeydd llai o faint ar gyfer Ysgol Gynradd Caerau a chynllun gwres ardal ar gyfer o leiaf 70 o gartrefi ar Ystâd Tudor.

Bydd cartrefi ar Ystâd Tudor sy'n cymryd rhan yn cael eu cysylltu â phwmp gwres ardal tra bydd cysylltiad preifat yn cyflenwi trydan ar gyfer y cynllun o'r fferm wynt ym Mharc Ynni Adnewyddadwy Llynfi Afan, gan ddarparu pŵer carbon isel a chost isel.

Fel prosiect enghreifftiol, mae gan Gynllun Gwres Caerau nifer fawr o randdeiliaid gan gynnwys; Llywodraeth Cymru, Tai Valleys to Coast, Prifysgol Caerdydd, BGS, Energy Systems Catapult, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo.

Cynnydd

Ar gyfer cynllun mor gyffrous a chymhleth, mae llawer iawn o waith ymarferoldeb a datblygu wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd.               

Dyma uchafbwyntiau’r 6 mis diwethaf:

  • Mae ymchwiliadau pellach i ddŵr mwyngloddiau wedi'u cynnal, gan gynnwys ailymweld â'r safle drilio prawf ar Safle'r Hen Fragwyr.
  • Mae ymgynghorwyr rhwydwaith gwres profiadol Nordic Heat wedi’u penodi i ymgymryd â'r gwaith manwl o gynllunio a datblygu prosiectau.
  • Mae astudiaeth fanwl o wneud cysylltiad â'r fferm wynt ar gyfer cyflenwad trydan carbon isel ar gyfer y cynllun wedi dangos canlyniadau cadarnhaol. Gallai hyn hefyd gyflenwi trydan i Ysgol Gynradd Caerau.

Newyddion diweddaraf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Valleys to Coast, a Energy Systems Catapult yn cydweithio i ddeall yn well yr hyn mae trigolion Ystâd Tudor yn dymuno ei gael o gynllun gwres Caerau. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymchwil, fel y gallwn ddysgu pa atebion fydd yn gweithio orau i chi.

Bydd Energy Systems Catapult, sefydliad dielw ac aelod o gymdeithas ymchwil y farchnad, yn cynnal rhywfaint o ymchwil i helpu i ddarparu gwres fforddiadwy a gwell cyfforddusrwydd i drigolion Ystâd Tudor. I wneud hyn, hoffem glywed am eich anghenion gwresogi a deall beth sy'n bwysig i chi. Bydd y wybodaeth hon yn helpu i gynllunio tariff gwresogi carbon isel fforddiadwy.

Fel rhan o'r ymchwil hwn, byddwn yn chwilio am drigolion yr ystâd i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Gall hyn fod yn arolygon, cyfweliadau dros y ffôn, a gweithdai, wedi'u trefnu ar adeg sy'n addas i chi.

 

Sut byddwch chi’n elwa?

Gwobrwyo eich amser

Rydym yn sylweddoli bod eich amser yn werthfawr. I ddiolch i chi am gymryd rhan yn yr ymchwil, byddwn yn eich talu am weithgareddau y byddwch yn cymryd rhan ynddynt. Os yw'n well gennych chi, gallwn gynnig talebau.

Pam rydyn ni’n gwneud hyn?

Mae Energy Systems Catapult yn gweithio gyda chartrefi fel eich un chi ledled y DU i ddeall sut mae cartrefi'n cael eu gwresogi a sut y gellir gwella cynhyrchion a gwasanaethau ynni yn y dyfodol i roi gwell profiad i chi.

Ar gyfer y prosiect hwn, ein nod yw helpu Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Valleys to Coast i ddatblygu a phrofi ffyrdd i chi brynu ynni, tra hefyd yn helpu i lunio atebion carbon isel sydd o fudd i'ch cymuned leol.

Bydd ymuno â'r ymchwil hwn yn eich galluogi i ddweud eich dweud ar sut y gall gwasanaeth gwres newydd weithio orau i chi, ond eich dewis chi yw p’un a ydych am gymryd rhan ai peidio mewn gweithgareddau unigol ar ôl cofrestru.


Camau nesaf...

I gymryd rhan a chofrestru heddiw ewch i es.catapult.org.uk/tudor-estate

Byddwn yn ymweld ag Ystâd Tudor ar 27 Gorffennaf i sgwrsio am y prosiect ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Byddwn hefyd yng Nghanolfan Gymunedol Caerau ar 29 Gorffennaf i rannu rhywfaint o wybodaeth os hoffech alw heibio gydag unrhyw gwestiynau.

Cyllid

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Blaenoriaeth 3 (Blaenoriaeth 3: Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni) i ddatblygu'r Cynllun, i'w gwblhau yn 2023.

Os hoffech wybod mwy am Gynllun Gwres Caerau, cysylltwch â’r Rheolwr Prosiect yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Cysylltu:

Jude Cook
Ffôn: 01656 642153

Chwilio A i Y