Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Eiddo’r cyngor mewn tywydd drwg iawn

Gall tywydd drwg iawn gau:

  • llyfrgelloedd
  • canolfannau hamdden
  • pyllau nofio
  • canolfannau dydd
  • meysydd parcio
  • amlosgfeydd
  • adeiladau cyhoeddus eraill fel Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Er ein bod ni a’n partneriaid yn gwneud pob ymdrech i gadw cyfleusterau o’r fath ar agor, nid yw’n bosib bob amser. Mae hyn yn debygol iawn os bydd tywydd drwg iawn yn atal staff rhag mynd i’r gwaith.

Os oes angen cau dros dro, byddwn yn ceisio ailagor yr eiddo ac adfer y gwasanaeth arferol cyn gynted â phosib, pan mae hynny’n ddiogel. Edrychwch ar ein tudalennau newyddion am ddiweddariadau. Hefyd ewch i’n tudalen ni ar Facebook, neu gadw llygad ar ein negeseuon trydar sydd wedi’u marcio â #BCBCwinter.

Chwilio A i Y