Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheoli coed

Dwy ffordd o ddelio â choed peryglus

I roi sylw i goeden beryglus ar dir cyhoeddus, gallwch anfon e-bost i’r adran Gynllunio a gofyn am gyngor cyfreithiol.

Anfon e-bost i’r adran Gynllunio am help

Yn eich e-bost, nodwch yr union leoliad a natur y broblem. Ein cyfeiriad e-bost yw planning@bridgend.gov.uk.

Cael cyngor cyfreithiol pellach

I wybod sut orau i weithredu mewn achosion cymhleth, mae posib i chi gael cyngor cyfreithiol. Gallai cyfreithiwr eich cynghori chi, neu gallwn ni ddarparu rhywfaint o gyngor ar y mater drwy ddefnyddio’r manylion isod.

Cyswllt


Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid testun: Rhowch 18002 cyn bob un o’n rhifau.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Llun i Iau: 8.30am tan 5pm
Gwener: 8.30am tan 4.30pm

T: 017581 157014 (ar gyfer cwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw).

Croesewir galwadau yn Gymraeg.

Hefyd gallwch wylio’r fideo yma i ddod i wybod mwy am SignVideo BSL Live.

Beth na fyddwn yn ei wneud

Rydyn ni’n rheoli’r holl waith cynnal a chadw hanfodol ar goed ac yn rhoi sylw i goed peryglus. Ond eto, ni fyddwn yn addasu coed:

  • am resymau cosmetig neu ymddangosiad
  • am eu bod yn blocio golau
  • er budd panelau solar
  • oherwydd colli neu darfu ar signal teledu neu loeren
  • os ydynt yn blocio golygfa
  • oherwydd colli dail, ffrwythau neu weddillion eraill, ac ni fyddwn yn cael
  • gwared ar y rhain chwaith
  • oherwydd canghennau’n hongian dros dir cyfagos
  • am eu bod yn dal neu’n siglo’n agos at eiddo

Gwybodaeth am blannu coed

Rydyn ni’n gweithredu prosiect plannu a thrin coed mawr. Edrychwch ar ein herthygl ‘Gwaith i gadw “fforest drefol” y fwrdeistref sirol mewn cyflwr da’ am fwy o wybodaeth ac edrychwch ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Coed ar dir Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Edrychwch ar wefan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am fwy o wybodaeth am y degau o erwau maen nhw’n berchen arnyn nhw ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Prosiect Llysgenhadon Coed

Trawsgrifiad o'r fideo am y Prosiect Llysgenhadon Coed.

Chwilio A i Y