Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybr Mawr Morgannwg

Yn rhychwantu ar draws pum sir yn Ne Cymru, mae Llwybr Mawr Morgannwg yn rhwydwaith anhygoel o lwybrau beic a cheffylau cysylltiedig sy’n cynnwys yr holl sy’n gwneud siroedd Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn lleoedd gwych.

Mae’r prosiect Llwybr Mawr Morgannwg wedi galluogi i lwybrau a oedd eisoes yn bodoli i gael eu hadfer, i lwybrau newydd gael eu creu, ac i farcwyr ffordd newydd a gatiau gyda handlenni ymestynnol gael eu gosod.

Nod y prosiect yw creu amrywiaeth o lwybrau cysylltiedig o’r mynyddoedd i’r arfordir, o’r coedwigoedd i’r cymoedd, gan alluogi i bawb archwilio prydferthwch De Cymru ar sedd, ar gyfrwy neu ar droed. 

Llwybrau

Mae’r llwybrau sy’n rhan o Lwybr Mawr Morgannwg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig golygfeydd arbennig o'r cefn gwlad, o barciau prydferth a dyfrffyrdd bendigedig, gan gynnig cyfle unigryw i gysylltu â natur.

Gwaith y Prosiect

Fel rhan o'r gwaith ar lwybrau Cwm Garw, mae tîm Llwybr Mawr Morgannwg wedi gosod: 

  • gatiau ceffylau gyda handlenni ymestynnol, cliciedi a physt.
  • disgiau a physt marcio ffordd
  • gatiau newydd
  • ffensys

Noder: Mae gwaith yn parhau ar rai o’r llwybrau, ac nid oes marcwyr ffordd ar bob llwybr.

Mae gwaith yn cael ei gyflawni fel rhan o'r prosiect Gwella Mannau Gwyrdd sy’n cefnogi darpariaeth barhaus Llwybr Mawr Morgannwg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r gronfa yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ac yn cynnig cyllid gwerth £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ysgogi balchder mewn lle, a chynyddu cyfleoedd byw ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau.

Mae Llwybr Mawr Morgannwg yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y