Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cronfa Ffyniant a Rennir y DU

Mae Cronfa Ffyniant a Rennir y DU (UKSPF) yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ac mae’n cynnig £2.6 biliwn mewn cyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw hyrwyddo balchder mewn lle, a chynyddu cyfleoedd byw ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Bydd Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach llywodraeth y DU o ysgogi ffyniant bro ym mhob rhan o'r DU drwy gyflawni pob un o’r amcanion ffyniant bro:

  • Rhoi hwb i gynhyrchedd, tâl, swyddi a safonau byw drwy ddatblygu’r sector preifat, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny sydd ar ei hôl hi
  • Rhannu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent ar eu gwanaf
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent wedi’u colli
  • Grymuso arweinwyr lleol a chymunedau, yn enwedig y lleoedd hynny lle mae prinder gweithrediad lleol.
  • Mae cronfa ar wahân o’r enw Multiply yn canolbwyntio ar wella sgiliau rhifedd oedolion.

Cynllun Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Dyrannwyd y Gronfa Ffyniant a Rennir ledled y DU ar sail asesiad o anghenion, a chafodd y 10 Awdurdod Lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyfanswm gwerth £230m o’r dyraniad, a £48m pellach ar gyfer Lluosi. Er mwyn manteisio ar y cyllid hwn, roedd gofyn i’r holl awdurdodau lleol o fewn y rhanbarth ddatblygu un cynllun buddsoddi rhanbarthol ar y cyd.

Aeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ati i weithio ag awdurdodau lleol eraill yn ne-ddwyrain Cymru er mwyn cyflwyno Cynllun Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Lywodraeth y DU. Roedd y cynllun hwn yn amlinellu'r cyfleoedd, heriau a blaenoriaethau allweddol ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd dull rhanbarthol yn cynnig cyfleoedd i rannu dysg ac arfer gorau, a nodi meysydd lle mae modd cydweithio.

Fel yr awdurdod arweiniol penodedig, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn derbyn dyraniad yr ardal ac yn ymgymryd â gwaith rheolaeth strategol y gronfa.

Cronfa Ffyniant a Rennir ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Dyrannwyd £19m i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr a £3.9m pellach ar gyfer Lluosi ar draws refeniw a chyfalaf, ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2022 hyd ddiwedd Mawrth 2025.

Cymerwch gip ar y wybodaeth am Gynllun Buddsoddi Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cronfa Ffyniant a Rennir y DU

Grantiau Cefnogi Busnes

Mae ein cynlluniau grant yn cefnogi busnesau newydd a chwmnïau sydd eisoes yn masnachu neu’n buddsoddi yn y fwrdeistref sirol. Mae gan bob cynllun grant feini prawf cymhwysedd penodol. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at ganllawiau unigol y cynllun grant cyn gwneud cais. Mae'r grantiau'n cynnwys:

  • Grant Datblygu Busnes
  • Grant Dichonoldeb Busnes

Grantiau Adfywio Strategol

Mae ein grantiau presennol yn cefnogi gwelliannau i eiddo masnachol a fydd yn adfywio a gwella canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg) a chanol bröydd a chanolfannau gwasanaethau lleol cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. Mae'r grantiau'n cynnwys:

  • Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr
  • Grantiau Arolwg Eiddo Gwag

Y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol

Ariennir y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Lleoedd.

Dyma raglen cymorth ariannol sy’n anelu at ddatblygu prosiectau adfywio cymunedol.

Mae’r gronfa’n parhau â llwyddiant y rhaglen Reach gyda’r uchelgais o ddatblygu cymunedau Pen-y-bont a’u troi’n lleoedd llewyrchus i fyw a gweithio ynddynt ac i

Cyswllt

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y Gronfa Ffyniant a Rennir, mae croeso ichi anfon e-bost at y tîm:

Chwilio A i Y