Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Helpu Natur Gartref

Mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu natur gartref ac yn eich ardal leol. Dyma rai syniadau:

Un ffordd gyflym a hawdd o wneud eich gardd yn fwy deniadol i adar yw darparu porthwr hadau a ffynhonnell ffres o ddŵr fel bath adar, neu ddim ond gynhwysydd gyda dŵr ffres.

Awgrym: mae llyngyr yn fyrbryd poblogaidd ymhlith creaduriaid sy'n bwyta pryfed fel adar y to, ond mae’r nico’n ffafrio hadau niger. Ceisiwch beidio â rhoi cnau daear mawr neu rydd yn eich porthwr oherwydd y gall y rhain fod yn berygl tagu i gywion ifanc. Mwy o wybodaeth am beth i’w roi’n fwyd i adar.

Gyda thri chwarter y rhywogaethau o löynnod byw yn dirywio yn y DU, gall ein gerddi chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cynefin y mae mawr ei angen iddynt. Bydd llawer o bryfed peillio'n bwydo ar neithdar unrhyw flodau, ond mae lindys yn gallu bod yn fwy ffyslyd yn aml. Efallai mai dim ond un neu ddwy rhywogaeth o blanhigion maent yn gallu byw arnynt.

Dyma rai planhigion poblogaidd i löynnod byw a'u lindys:

  • gwyddfid
  • lafant
  • danadl poethion
  • rhafnwydd

Mwy o wybodaeth am y planhigion bwyd all ddenu rhywogaethau o löynnod byw.

Mae creu tomen gompost yn eich gardd yn ffordd wych o waredu gwastraff cegin a darparu cynefin ar gyfer pob math o drychfilod! Bydd infertebratau fel nadroedd cantroed, pryfed lludw, pryfed genwair a phryfed cop yn defnyddio eich compost. Maent hefyd yn ffynhonnell fwyd ardderchog i fywyd gwyllt arall.

Gall fod mor syml â gadael i'r glaswellt dyfu! Gallwch greu amrywiaeth o gynefinoedd drwy adael rhai rhannau o'ch lawnt heb eu torri. Neu gyda llwybrau wedi'u torri neu ardal ar gyfer picnic a rhywfaint o le i adnabod bywyd gwyllt.

Mae glaswellt talach yn darparu cysgod ac yn caniatáu i flodau flodeuo a all fod yn ffafriol i wenyn neu bryfed peillio eraill. Mae llawer o blanhigion sy’n cael eu galw’n chwyn ond, mewn gwirionedd, maen nhw o fudd mawr i fywyd gwyllt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • dant y llew
  • danadl poethion
  • ysgall

Fodd bynnag, gall cael rhai ardaloedd wedi’u torri helpu anifeiliaid sy'n bwydo ar bryfed genwair, fel adar duon.

Mwy o wybodaeth am sut gallwch chi dyfu gardd ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae mwy o wybodaeth am sut gallwch chi helpu bywyd gwyllt ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Natur a’r Prosiect Gardd Bywyd Gwyllt.

Chwilio A i Y