Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gofal seibiant

Mae gwasanaethau gofal seibiant yn edrych ar ôl person dibynnol dros dro er mwyn rhoi seibiant i'r gofalwr. Dylai’r egwyliau hyn gynnig profiad positif i’r person sy’n derbyn gofal a’r gofalwr, i wella ansawdd eu bywydau ac i gefnogi’r berthynas.

Tŷ Harwood

Mae Tŷ Harwood yn cynnig gofal preswyl i blant sy’n derbyn gofal. Maent yn gallu cymryd hyd at dri o blant neu bobl ifanc gydag anghenion cymhleth, rhwng 8 ac 18 sydd ar y gofrestr yn Ysgol Heronsbridge.

Bakers Way

Mae Bakers Way yn cynnig gwasanaeth egwyliau byr i blant a phobl ifanc anabl sy'n 18 oed neu iau ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gall hyd at bump o blant fynychu ar unrhyw adeg a bydd y gwasanaeth yn ceisio diwallu eu hanghenion unigol, cefnogi eu teuluoedd, a hyrwyddo eu hawl i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol.

Chwilio A i Y