Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Teithio Llesol

Rydym eisiau eich barn i wella'r seilwaith cerdded a beicio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac i helpu i lunio llwybrau Teithio Llesol y dyfodol.

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

Diolch i chi am ddweud wrthym ni am y rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu wrth gerdded a beicio yng ngham cyntaf yr ymgynghoriad hwn. Ymatebodd mwy na 900 o bobl gyda 3,099 o gyfraniadau.

Rydyn ni wedi ystyried y sylwadau hyn ac wedi drafftio cynlluniau ar gyfer llwybrau. Mae'r rhain yn dangos y llwybrau cerdded a beicio presennol ac yn y dyfodol ar gyfer siwrneiau bob dydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydyn ni eisiau eich barn am ein llwybrau arfaethedig. Ydyn nhw’n fwy tebygol o'ch helpu chi i fynd o amgylch eich ardaloedd lleol fel cerddwr neu feiciwr? Os na, pa welliannau eraill y gallwn ni eu gwneud?

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Y Camau Nesaf

Mae’r ymgynghoriad wedi’i rannu’n dri cham a bydd yn rhoi llawer o gyfleoedd i'r cyhoedd gyfrannu at Fapiau'r Rhwydwaith Teithio Llesol:

1. Ymgynghoriad Rhagfyr 2020 i Ionawr 2021: Adborth ar rwystrau i gerdded a beicio: Beth yw eich barn am y seilwaith presennol? Ble ydych chi'n cael anawsterau wrth gerdded neu feicio? A beth hoffech chi ei weld yn y dyfodol?

2. Ymgynghoriad Chwefror i Mawrth 2021: Dilysu'r rhwydwaith drafft: Yn seiliedig ar eich adborth o'r ymgynghoriad cyntaf byddwn yn llunio map rhwydwaith drafft ac eisiau clywed eich barn ar y cynlluniau arfaethedig.

3. Ymgynghoriad Gorffennaf i Hydref 2021: Ymgynghoriad statudol terfynol ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol arfaethedig, a fydd wedi ystyried adborth y ddau gylch ymgynghori cyntaf. Ar ôl hyn, bydd y map rhwydwaith terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

Cael gwybodaeth gyson

I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol a gwasanaethau ewch i lwybrau Teithio Llesol - CBS Pen-y-bont ar Ogwr

Rhag ofn eich bod eisiau cymryd rhan mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol ar deithio llesol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, anfonwch eich manylion cysylltu atom ni a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Cysylltu

Teithio Llesol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y