Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwyddedau ar gyfer sgipiau, sgaffaldiau a chreu cyrbau is

Gwneud cais am drwyddedau sgipiau a sgaffaldiau

Rydym yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer sgipiau a sgaffaldiau. Maent yn caniatáu i sgipiau a sgaffaldiau gael eu lleoli ar droedffyrdd, lleiniau ymyl a lonydd cerbydau. Fodd bynnag, mae trwyddedau ond ar gyfer contractwyr dilys a chânt eu harchwilio i sicrhau bod sgipiau a sgaffaldiau yn cynnal ein hamodau.

Ymgeisio i greu cwrbyn is

Mae’n rhaid i ni roi cymeradwyaeth i chi ddechrau adeiladu neu addasu mynedfa i gerbydau. Mae ein caniatâd yn cynnwys addasu’r briffordd, boed hynny’n lôn gerbydau, troedffordd neu lain ymyl. Mae cynnal gwaith o’r fath heb ein caniatâd yn drosedd o dan y Ddeddf Priffyrdd, a gall arwain at erlyniad.

Yn dilyn cymeradwyaeth gychwynnol, mae cyfres o archwiliadau a chytundebau. Mae’r rhain yn sicrhau bod y gwaith yn bodloni ein safonau, ac os ydyw’n cyd-fynd â’n manylebau, caiff y gwaith gorffenedig ei gwblhau.

Cymorth gyda’r ffurflenni

I gael cymorth i lenwi’r ffurflenni sgipiau, sgaffaldiau neu fynedfa i gerbydau perthnasol, ffoniwch ni ar 01656 642 533.

 

Chwilio A i Y