Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC

The Paddocks yng Nghoety, a adeiladwyd gan Scimitar Homes.

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’n ymwneud ag annog arferion adeiladu rhagorol a chydnabod adeiladwyr sy’n mynd yr ail filltir. Nid ydynt yn cael eu barnu ar sail harddwch pensaernïol, ond ar y “rhagoriaeth” a ddangosir o bersbectif adeiladu a rheolaeth adeiladu dechnegol.

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’n cael eu trefnu gan y Grŵp Rheoli Adeiladu. Mae’r syrfëwyr Rheoli Adeiladu wedi enwebu adeiladwyr sydd wedi cyrraedd safonau uchel yn gyson gyda gwaith adeiladu o ansawdd uchel yn y categorïau canlynol:

  • newid defnydd gorau i adeilad presennol neu adeilad wedi’i drawsnewid
  • datblygiad tai bach gorau a gwobr cynllunio arbennig
  • datblygiad tai dwysedd uchel newydd gorau
  • datblygiad tai cymdeithasol newydd gorau
  • adeilad gwasanaethau cyhoeddus gorau
  • adeilad addysgol gorau
  • adeilad masnachol bach gorau
  • partneriaeth cwsmeriaid orau LABC gyda thîm rheoli adeiladu awdurdod lleol
  • gweithiwr adeiladu proffesiynol gorau’r flwyddyn LABC

 

Chwilio A i Y