Pridiannau tir
Oherwydd ôl-groniad o chwiliadau a phroblemau adnoddau parhaus o fewn ein tîm pridiannau tir lleol, ar hyn o bryd nid ydym yn gallu dychwelyd canlyniadau chwiliad swyddogol o fewn ein targed lleol o 30 diwrnod gwaith i’r diwrnod cyflwyno. Rydym yn parhau i fonitro ein perfformiad, ond ar hyn o bryd mae'r canlyniadau yn cymryd llawer mwy o amser na hyn.
Rydym yn deall yr effaith y mae’r sefyllfa hon yn ei chael ar y broses drosglwyddo a thrafodion masnachol a phreifat. Rydym yn gweithio'n galed i wella'r sefyllfa a diolch i chi am eich amynedd.
Unwaith y bydd gennym yr adnoddau angenrheidiol yn eu lle, ein bwriad yw prosesu ceisiadau am chwiliad yn y drefn y cânt eu derbyn. Rhaid i unrhyw geisiadau i gyflymu canlyniadau chwiliad swyddogol gynnwys esboniad ysgrifenedig llawn a thystiolaeth ategol lle bo hynny'n briodol. Caiff ceisiadau i gyflymu wedyn eu hystyried fesul achos.
At hynny, er mwyn osgoi oedi gyda'ch chwiliad, efallai y byddwch yn dymuno defnyddio Cwmni Chwiliad Personol a all archwilio ein cofrestrau cyhoeddus statudol a Chofrestrau Tir Comin Lleol a Meysydd Trefi a Phentrefi trwy drefnu apwyntiad. Er mwyn trefnu apwyntiad, cysylltwch â ni yn Landcharges@bridgend.gov.uk Nid ydym yn codi unrhyw ffioedd am wybodaeth a ddarperir fel rhan o chwiliad personol. Rydym wedi ymestyn ein system apwyntiadau ar gyfer hyn i gynnwys dydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 9a.m. a 12 hanner dydd a rhwng 1 a 5p.m.
Dim ond os hysbysir y Swyddfa Pridiannau Tir Lleol cyn prosesu’r chwiliad y gellir canslo chwiliadau, a dychwelyd eich ffi.
Mae'r Awdurdod yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Chofrestrfa Tir Ei Fawrhydi (HMLR) tuag at fudo a gweithredu un gronfa ddata ar gyfer holl wybodaeth chwilio LLC yng Nghymru a Lloegr.
Mae pridiannau tir yn rhwymedigaeth ar berchennog presennol y tir, neu’r perchennog yn y dyfodol, i gydymffurfio â phridiant. Gall y rhain fod fel a ganlyn:
- amodau a orfodir mewn unrhyw ganiatâd cynllunio sydd wedi’i ddyfarnu
- coed dan warchodaeth na ddylid eu difrodi
- arian dyledus i drydydd parti
- cyfyngiadau ar ddatblygiad caniataol
Mae pob pridiant tir yn cynnwys ei rwymedigaethau ei hun ac mae’n bwysig bod yn ymwybodol o unrhyw rai sy’n effeithio ar yr eiddo rydych yn ystyried ei brynu.
Chwiliadau tir
Cyn prynu tir neu eiddo, efallai y bydd rhaid i chi ofyn am chwiliad Pridiannau Tir Lleol. Mae hwn yn cael ei alw hefyd yn chwiliad awdurdod lleol neu chwiliad tir. Bydd yn dangos unrhyw wybodaeth berthnasol sydd gennym ni, fel y canlynol:
- a oes gan y tir unrhyw bridiannau tir arno
- copi llawn o’r hanes cynllunio
- manylion am briffyrdd cyhoeddus, fel ffyrdd, llwybrau troed neu lwybrau marchogaeth yn yr ardal
Fel rheol mae cyfreithiwr, trawsgludwr trwyddedig neu gwmni chwilio personol yn gwneud cais am gynnal chwiliad, ond gall unigolion preifat a sefydliadau wneud hyn hefyd.
I wneud cais am chwiliad tir:
- Llenwch y ffurflen(ni) pridiannau tir lleol perthnasol. Gellir prynu’r ffurflenni drwy sianel NLIS.
- Sicrhau bod y cynllun lleoliad Arolwg Ordnans (graddfa 1/1250) mwyaf diweddar ac o ansawdd da yn cael ei gyflwyno gyda ffiniau'r eiddo wedi'u marcio'n goch (ac yn cynnwys rhif trwydded Arolwg Ordnans a chydnabyddiaeth).
- Eu hanfon atom ni gan ddefnyddio’r manylion cysylltu ar waelod y dudalen hon. Os byddwch yn eu hanfon drwy’r post, rhaid cynnwys dau gopi o bob dogfen.
Ar ôl i ni dderbyn y ffurflenni, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu taliad.
Dylech dderbyn canlyniadau’r chwiliad o fewn 30 diwrnod gwaith. Nid ydym yn cynnal chwiliadau’n gyflymach na hynny. Bydd y chwiliadau sy’n cyrraedd ein swyddfeydd yn gynt yn cael eu prosesu’n gynt.
Os na fyddwch wedi derbyn canlyniadau eich chwiliad ar ôl 30 diwrnod gwaith, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cysylltu ar waelod y dudalen hon.
Y terfyn ar gyfer derbyn chwiliadau newydd bob dydd yw 10.30am. Os byddwn yn derbyn eich cais am chwiliad ar ôl yr amser hwn, byddwn yn dechrau ei brosesu y diwrnod gwaith canlynol.
Ffurflenni chwiliad tir
Gellir cyflwyno’r ffurflenni hyn gyda’i gilydd neu ar wahân. Er enghraifft, os mai dim ond un cwestiwn rydych eisiau ateb iddo ar CON29O, does dim angen cyflwyno chwiliad llawn. Rydym angen cynllun yr un fath.
Os oes unrhyw beth arall rydych eisiau ei wybod am y tir sydd heb ei ddatgelu’n safonol, cewch ofyn eich cwestiynau ychwanegol eich hun.
Chwiliad drwy’r gofrestr tir yw LLC1. Mae’r gofrestr tir yn gofnod o’r holl bridiannau tir sy’n weithredol yn y fwrdeistref ar hyn o bryd. Ni ddylid ei drysu â’r Gofrestrfa Tir. Gall gynnwys pridiannau ariannol, adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth a cheisiadau cynllunio sydd wedi’u cymeradwyo gydag amodau.
Hysbysiad preifatrwydd
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y ffurflen hon i brosesu eich cais am Chwiliad Awdurdod Lleol (LLC1). Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi gydag unrhyw drydydd parti oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny’n gyfreithiol. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 12 mlynedd.
Mae CON29 yn rhestr o gwestiynau sy’n cael eu hateb gan adrannau amrywiol yn y cyngor a’r awdurdod priffyrdd. Mae manylion am yr holl gwestiynau ar gael ar dudalen 2 ffurflen CON29. Mae nodiadau cyfarwyddyd ar y ffurflen CON29 ar gael ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.
Hysbysiad preifatrwydd
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y ffurflen hon i brosesu eich cais am Chwiliad Awdurdod Lleol (CON29). Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r adrannau Rheolaeth Adeiladu, Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwarchod y Cyhoedd. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 12 mlynedd.
Ceir hefyd restr o gwestiynau dewisol o’r enw CON29O. Mae manylion am y cwestiynau hyn ar gael ar dudalen 2 ffurflen CON29O. Mae nodiadau cyfarwyddyd ar y ffurflen CON29 ar gael ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.
Hysbysiad preifatrwydd
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y ffurflen hon i brosesu eich cais am Chwiliad Awdurdod Lleol (CON29O). Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r adrannau Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwarchod y Cyhoedd. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 12 mlynedd.
Cost
Cymerir taliad am unrhyw chwiliad sydd wedi’i gyflwyno i’r tîm Pridiannau Tir Lleol. Os ydych yn dymuno canslo’r chwiliad ar ôl dechrau ei brosesu, bydd ffi ganslo’n berthnasol.
Cyflwyno chwiliadau ar-lein gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS) yn darparu mynediad electronig i bob ffynhonnell swyddogol o wybodaeth am dir ac eiddo ledled Cymru a Lloegr. Gallwch gyflwyno chwiliadau’r Awdurdod Lleol ar-lein.
Gwybodaeth am chwiliadau personol
Cofrestri ar gael i’w gweld gan y cyhoedd
Gallwch edrych ar y rhan fwyaf o’r cofrestri cyhoeddus statudol a’r Cofrestri o Dir Comin Lleol a Lawntiau Trefi a Phentrefi drwy drefnu apwyntiad. I wneud apwyntiad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon. Rydym wedi ymestyn ein system apwyntiadau ar gyfer hyn i gynnwys dydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 9a.m. a 12 hanner dydd a rhwng 1 a 5p.m.
Nid ydym yn codi unrhyw ffioedd am yr wybodaeth a ddarperir fel rhan o chwiliad personol.
Os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth nad yw ar gael ar unwaith o’n derbynfa cynllunio, anfonwch gynllun a chyfeiriad/disgrifiad o’r tir atom ni. Bydd yr adrannau sydd â’r wybodaeth yn eich ateb chi’n uniongyrchol.
Bydd rhaid i chi gysylltu â’r tîm Priffyrdd am y gofrestr Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Cyswllt
Dogfennau pridiant tir
Os oes arnoch angen copïau o unrhyw ddogfennau pridiant tir, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon. Mae ffi o £10 y ddogfen.