Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ystlumod

Ffoniwch Linell Gymorth yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ar 0845 1300 228.

Mae ystlumod ymhlith yr anifeiliaid gwyllt yr ydym yn dod ar eu traws amlaf mewn datblygiadau.

Mae Cymru yn gartref i 16 o rywogaethau o ystlumod sy’n byw mewn sawl cynefin, gyda chlwydi mamolaeth a gaeafgysgu. O blith yr 16 o rywogaethau, mae hyd at 10 yn cael eu cofnodi’n rheolaidd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ystlumod yn cael eu gwarchod gan y canlynol:

O’r herwydd, mae difrodi neu flocio clwyd neu gysgod ystlumod, os oes ystlumod yn bresennol ai peidio, neu ladd, anafu neu darfu ar ystlumod, yn anghyfreithlon.

Nodyn i berchnogion tai

Mae ystlumod yn bwysig i’n hamgylchedd ni. Fel pryfysorion, maent yn rheoli plâu ac yn bwyta miloedd o bryfed bob nos. Yn bryderus, mae nifer yr ystlumod yn y DU wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y can mlynedd ddiwethaf. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod llai o lefydd iddynt glwydo ac yn rhannol oherwydd mwy o ddefnydd o blaladdwyr. Mae hyn yn lleihau nifer y pryfed a’r niwed i ystlumod hefyd.

Mae digon o ffyrdd i chi helpu’r boblogaeth o ystlumod, fel plannu gardd gyfeillgar i ystlumod neu osod bocs ystlumod yn ei le. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.

Cyngor datblygu

Mae’r polisi cynllunio cenedlaethol yn dweud ei bod yn hanfodol sicrhau gwybodaeth am bresenoldeb rhywogaethau dan warchodaeth ac a fydd datblygiadau’n effeithio arnynt cyn dyfarnu caniatâd cynllunio. Fel arall, ni fydd y penderfyniad yn rhoi sylw i’r ffactorau pwysicaf.

O ganlyniad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gael digon o wybodaeth i eithrio unrhyw effaith yn sgil y datblygiad ar rywogaethau dan warchodaeth cyn gwneud penderfyniad. Fel gydag arolygon eraill a gofynion cynllunio, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu’r wybodaeth hon.

Mae ystlumod yn clwydo mewn llefydd niferus, gan gynnwys adeiladau, strwythurau, coed a choetiroedd. Mae’n hanfodol osgoi difrodi neu darfu ar glwyd yn ystod neu ar ôl datblygiad.

A oes angen arolwg ar ystlumod 

Nid yw’n hanfodol bob amser. Nid oes gan bob adeilad ystlumod ond, nid ydym yn gwybod ble maent i gyd. Fel llawer o anifeiliaid, mae ystlumod yn ffafrio defnyddio adeiladau penodol yn agos at leoliadau neu gynefinoedd maent yn eu hoffi. Rydym yn defnyddio cyfarwyddyd Canllawiau Arfer Da (2012) yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod i’n helpu ni i weld pa ddatblygiadau sydd fwyaf tebygol o ddod ar draws ystlumod.

Os penderfynir ei bod yn afresymol gofyn am arolwg, nid yw’n golygu na fydd ystlumod yn bresennol. Os gwelir ystlumod yn ystod datblygiad, cofiwch eu bod yn rhywogaeth dan warchodaeth o hyd a’i bod yn drosedd tarfu arnynt. Edrychwch ar y rhybudd ystlumod isod am ragor o wybodaeth.

Oherwydd colli cynefinoedd yn barhaus, mae ystlumod wedi gorfod cysgodi mewn llawer o’n hadeiladau ni neu mewn coed yn ein gerddi er mwyn goroesi. Ni fyddwch yn ymwybodol ohonynt yn aml. Ond peidiwch â phoeni, ni fyddant yn gwneud unrhyw niwed i chi.

Pwrpas yr wybodaeth ganlynol yw eich helpu chi i weld a allai eich datblygiad effeithio ar ystlumod, a fyddai’n golygu y byddai eich cais angen arolwg ar ystlumod efallai.

Nodyn cyfarwyddyd un:

Bydd angen ecolegydd cymwys a phrofiadol i gynnal arolwg ar ystlumod os yw eich cynigion datblygu’n cynnwys y canlynol:

  • trawsnewid, addasu, dymchwel neu gael gwared ar unrhyw adeilad, gan gynnwys adeiliadau diffaith, sydd yn:
    • adeiladau amaethyddol fel ffermdy, ysguboriau ac adeiladau allanol o adeiladwaith brics neu gerrig traddodiadol a/neu gyda thrawstiau coed agored
    • adeiladau gydag estyll tywydd a/neu deils crog sydd o fewn 200m i goetir a/neu ddŵr
    • adeiladau a strwythurau ar wahân yn dyddio o gyfnod cyn 1960 sydd o fewn 200m i goetir a/neu ddŵr
    • adeiladau yn dyddio o gyfnod cyn 1914 sydd o fewn 400m i goetir a/neu ddŵr
    • adeiladau yn dyddio o gyfnod cyn 1914 gyda thalcenni tŷ/neu doeau llechi, heb ystyried eu lleoliad
    • wedi’u lleoli mewn coetir neu’n agos at goetir a/neu yn union gerllaw dŵr 
    • helmydd neu adeiladau da byw gyda thoeau croen sengl ac estyll bwrdd-a-bwlch neu Sir Efrog os bydd asesiad rhagarweiniol o glwyd yn canfod ei fod yn addas iawn i ystlumod 
  • effeithio ar strwythurau adeiledig, fel:
    • twnelau, mwyngloddiau, odynau, rhewdai, mynedfeydd, ceyrydd milwrol, cysgodfannau cyrchoedd awyr, selerydd a choridorau a strwythurau tanddaearol tebyg, simneiau segur a heb eu leinio wedi’u hadeiladu o frics/ cerrig   
    • pontydd, pontydd dŵr a thraphontydd, yn enwedig dros ddŵr a thir gwlyb
  • goleuadau:
    • eglwysi, adeiladau rhestredig, gofod gwyrdd fel caeau chwaraeon o fewn 50m i goetir, gwrychoedd caeau neu linellau o goed gyda chysylltedd â choetir neu ddŵr
    • unrhyw adeilad wedi’i restru’n flaenorol
  • torri, gwaredu neu docio:-
    • coetir
    • gwrychoedd caeau a/neu linellau o goed gyda chysylltedd â choetir neu gyrff o ddŵr 
    • hen goed a choed feteran sydd dros 100 oed
    • coed aeddfed gyda thyllau, craciau a cheudyllau amlwg neu sydd wedi’u gorchuddio gan eiddew aeddfed, gan gynnwys coed marw mawr
  • cynigion sy’n effeithio ar gyrff o ddŵr
    • mewn neu o fewn 200m i afonydd, nentydd, camlesi, llynnoedd, corslwyni neu gynefinoedd dŵr eraill
  • cynigion wedi’u lleoli mewn neu yn union gerllaw
    • chwareli neu byllau graean
    • wynebau clogwyni naturiol ac allgreigiau gyda chilfachau, neu ogofâu a thyllau yn y ddaear 
  • cynigion ar gyfer ffermydd gwynt gyda thyrbinau lluosog neu sengl yn dibynnu ar faint a lleoliad a bydd angen ystyried tyrbinau domestig bychain fesul safle 
  • pob cynnig ar safleoedd lle mae gwybodaeth am ystlumod yn bresennol

Os yw eich datblygiad yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod, edrychwch ar Daflen Gyfarwyddyd B9 – Gofynion Arolwg Ecolegol am gyfarwyddyd pellach am arolygon ar ystlumod.

Os yw eich datblygiad angen arolwg ai peidio, edrychwch ar yr adran manteision newydd isod. Mae pob datblygiad yn gyfle i wella bioamrywiaeth a thrwy gynnwys mesurau syml yn y datblygiad, gallwch helpu i gyfrannu at y boblogaeth. Efallai y cewch chi rai manteision annisgwyl o annog y mamaliaid yma i ymweld â’ch gerddi. 

Mae pob rhywogaeth o ystlum a’u safleoedd neu eu clwydi magu wedi’u gwarchod yn llawn o dan y canlynol:

Heb drwydded, mae gan ystlumod warchodaeth gyfreithiol rhag unrhyw un sy’n mynd ati’n fwriadol i wneud y canlynol:

  • lladd
  • anafu
  • trin
  • cymryd yn eu meddiant, byw neu farw
  • tarfu wrth glwydo
  • gwerthu neu gynnig ystlum i’w werthu

Mae hefyd yn drosedd difrodi, dinistrio neu rwystro mynediad i unrhyw le a ddefnyddir gan ystlumod am gysgod, os ydynt yn bresennol yno ai peidio.

Mae’n eithriadol bwysig bod datblygwyr a pherchnogion tir sy’n ystyried gweithgareddau a all effeithio ar ystlumod yn cael cyngor penodol i safle cyn gwneud unrhyw gynlluniau neu raglenni.

Gall gweithgareddau a all arwain at y troseddau uchod gael eu caniatáu yn achlysurol. Er hynny, rhaid cadw at broses lem o drwyddedu a’i dilyn er mwyn gweithredu’n gyfreithiol.

Os yw’r gweithgaredd arfaethedig angen caniatâd cynllunio neu unrhyw fath arall o ganiatâd, fel caniatâd adeilad rhestredig neu drwyddedau symud, rhaid iddo fod wedi’i sicrhau. Hefyd, dylid ei gyflwyno i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda’r cais am drwydded.

Mae angen trwydded gan CNC yn aml er mwyn gwneud gwaith clirio llystyfiant a datblygu a all effeithio ar ystlumod ac unrhyw rywogaeth Ewropeaidd arall dan warchodaeth. Mae hynny heb ystyried a yw’r gwaith angen caniatâd cynllunio. Gall methu cael trwydded cyn dechrau datblygu neu glirio safle arwain at gyflawni trosedd. Gallai hyn arwain at oedi, erlyn, dirwyon, meddiannu offer, ffioedd cyfreithiol ac, o bosib, dedfryd o garchar. 

Dyfernir trwyddedau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Cynefinoedd. I ddyfarnu trwydded, rhaid i CNC fod yn fodlon bod y gweithgaredd arfaethedig yn bodloni meini prawf y Rheoliadau Cynefinoedd, y cyfeirir atynt yn aml fel “y tri phrawf”.

Y tri phrawf

Mae’r profion hyn yn cynnwys y canlynol:

  • yr angen am y datblygiad/gweithgaredd arfaethedig
  • ystyried opsiynau posib eraill yn ôl gweithgaredd, dull, amseriad, camau, lleoliad
  • cynnal statws cadwraeth ffafriol y boblogaeth o ystlumod gaiff ei heffeithio

Yn yr un modd, mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn gofyn i ni ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar ystlumod cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio a allai effeithio arnynt neu eu cynefinoedd. Felly, rhaid i ni hefyd fod yn fodlon y bydd y cynigion yn bodloni meini prawf y profion er mwyn dyfarnu caniatâd cynllunio. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol pa un ai yw’r cais yn un amlinellol, ar gyfer materion cadw neu gais cynllunio llawn.

I’n helpu ni a CNC i asesu cynigion, rhaid i’r datblygwr a’r perchennog tir roi digon o wybodaeth i wneud penderfyniad yn erbyn y Rheoliadau Cynefinoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • presenoldeb/absenoldeb data arolygu diweddar
  • amcangyfrif o’r boblogaeth, os oes un
  • asesiad o’r cynefin
  • asesiad o’r effaith
  • strategaeth lliniaru a gwneud iawn
  • cynllun rheoli a monitro

Cosbau

Am bob trosedd, y gosb fwyaf am ddiffyg cydymffurfio â’r deddfau uchod yw dirwy o £5000 a/neu chwe mis yn y carchar. Efallai y bydd rhaid ildio unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni’r drosedd. Gall y cwmni a’r unigolion gael eu dal yn atebol.

Wrth arolygu’r safle a/neu rannau ohono am ystlumod, dylech ystyried amseriad yr arolwg. Mae gwahanol fathau o arolygon ar ystlumod yn cael eu cynnal ar wahanol adegau o’r flwyddyn a gallai hyn effeithio ar amserlen eich datblygiad. Mae’n bwysig eich bod yn glir ynghylch pryd fydd y rhain yn cael eu cynnal.

Bydd yr ymdrech arolygu’n amrywio gan ddibynnu ar leoliad a chymeriad y safle, lefel yr effaith a’r rhywogaethau a effeithir o bosib.

Yr arolwg mwyaf cyffredin y gwneir cais amdano ar gyfer datblygiadau tai yw arolwg cychwynnol ar ystlumod ac adroddiad. Mae’r arolwg hwn yn cynnwys asesiad o’r cynefin ac arolygu’r adeilad/clwyd bosib, a gellir gwneud hynny ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gall fod yn ddigon i gyflwyno adroddiad yr arolwg ar ystlumod ar gyfer caniatâd cynllunio os na chredir bod risg i ystlumod yn bodoli.

Nodyn cyfarwyddyd dau:

Dim ond gwaith arolygu/asesu gan berson addas a chymwys sydd wedi gweithredu yn unol â’r canllawiau arolygu cydnabyddedig a dderbynnir gennym ni.

Rhaid i’r holl waith arolygu/asesu gael ei wneud a’i baratoi gan bobl fedrus sydd â chymwysterau, trwyddedau a phrofiad addas. Rhaid gwneud y gwaith arolygu ar amseroedd priodol, yn ystod misoedd addas y flwyddyn, mewn tywydd priodol a chan ddefnyddio canllawiau/dulliau adolygu a gydnabyddir yn genedlaethol. Rhaid cadw at yr arferion gorau hefyd. Am gyfarwyddyd, ewch i ‘ffynonellau ar gyfer dulliau arolygu’.

Hefyd dylai’r adroddiadau gynnwys gwybodaeth fanwl am yr asesiad o’r effaith a chynnwys unrhyw fesurau angenrheidiol ar gyfer osgoi, lliniaru, gwneud iawn a gwella. Mae rhagor o gyfarwyddyd am arolygon ar ystlumod a mesurau lliniaru ar gyfer datblygu strwythurau fel adeiladau neu dyrbinau gwynt ar gael ar wefan Natural England. Hefyd edrychwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, a Chanllawiau Arfer Da ar gyfer Arolygon ar Ystlumod.

Nodyn cyfarwyddyd tri:

Rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr roi digon o dystiolaeth i ddangos bod osgoi yn amhosib cyn gellir ystyried lliniaru neu wneud iawn fel opsiynau ymarferol eraill.

Ar ôl canfod faint o ystlumod sydd ar y safle, gallwch gymryd camau i osgoi tarfu arnynt. Gallai hyn fod mor syml â chadw clwyd a/neu gynefin bwydo/cymudo yn eich cynllun. Mae amseriad y datblygiad neu baratoi ar gyfer gweithgareddau datblygu yr un mor bwysig. Mae’r rhan fwyaf o glwydi’n dymhorol, fel clwydi magu yn y gwanwyn/haf a chlwydi gaeafgysgu yn y gaeaf. Mae’r patrwm yma’n rhoi cyfle i wneud gwaith yn ystod y cyfnodau pan nad yw’r clwydi’n cael eu defnyddio.

Yn yr un ffordd, mae clwyd yn cael ei gwarchod os oes ystlumod yn bresennol yn ystod y gwaith ai peidio. Felly mae’n bwysig gofyn am gyngor proffesiynol ar gyfer eich cynllun.

Nod mesurau osgoi yw osgoi effeithiau niweidiol newid. Mae’r esiamplau’n cynnwys datblygu heb fod mewn ardaloedd o ddiddordeb ecolegol, ac mae gan Nodyn Cyngor Technegol 5 (TAN 5) fwy o wybodaeth am hyn.

Gall ecolegwyr proffesiynol eich helpu chi i nodi’r effaith bosib ar ystlumod a nodi sut i osgoi niwed, gan gynnwys problemau posib nad ydych chi wedi meddwl amdanynt efallai. Er enghraifft, gall cynlluniau goleuo gael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt, gan gynnwys ystlumod. Mae deall hyn yn gynnar ar gyfer ei gynnwys yn y datblygiad yn gyfle i osgoi niweidio rhywogaethau dan warchodaeth drwy ddarparu coridorau tywyll ar gyfer symudiad, fel llwybrau beicio heb eu goleuo. Gall dynnu sylw at yr angen am arolygon a thrwyddedau ychwanegol, a lleihau llygredd golau’r datblygiad hefyd.

Bydd cynnwys nodweddion tirwedd yng nghynllun y datblygiad/y cynllun meistr yn helpu i osgoi niwed i ystlumod. Dylid ystyried manteision seilwaith gwyrdd hefyd, a chyfrannu at bolisïau a gofynion cysylltiedig.

Gall cynnal a chadw gwrychoedd helpu i gyfrannu at gymeriad y dirwedd (SP2, SP4 ac ENV3) a hefyd cynnal llwybrau hedfan ystlumod. Mae gan goed a gwrychoedd sawl mantais a dylai datblygiadau gynnwys y nodweddion hyn.

Os nad oes modd osgoi tarfu ar rywogaethau neu gynefinoedd dan warchodaeth, bydd angen cytuno ar gynllun lliniaru addas. Os canfuwyd tystiolaeth o ystlumod, ac nad yw osgoi yn bosib, ac os nad oes modd osgoi niwed, bydd rhaid gweithredu mesurau lliniaru am golli cynefinoedd/tarfu ar ystlumod. Os oes angen lliniaru ar gyfer rhywogaethau dan warchodaeth yn ystod gweithgareddau fel dymchwel, adnewyddu adeiladau, neu dorri coed, bydd angen trwydded gan CNC. Bydd y math o fesurau lliniaru/osgoi, fel amseriad y gwaith, yn y cais am drwydded yn dibynnu ar y rhywogaeth o ystlum a’r math o glwyd. 

Nodyn cyfarwyddyd pedwar:

Os nad oes modd osgoi niwed, dylai’r mesurau lliniaru ei leihau. Gall yr ymgynghorydd ystlumod sy’n cynnal yr arolwg eich arwain chi drwy’r broses gwneud cais am drwydded.

Os yw osgoi yn amhosib, gall lliniaru wella’r safle ar gyfer rhywogaethau dan warchodaeth. Hefyd, gall mesurau lliniaru gyfrannu at gynaliadwyedd y datblygiad, a chael eu cynllunio gan feddwl am seilwaith gwyrdd. Gall cynnwys nodweddion naturiol sydd wedi’u cynllunio’n dda mewn datblygiadau helpu i gyfrannu at y lliniaru gofynnol a darparu sawl mantais.

Nodyn cyfarwyddyd pump:

Dim ond os bydd datblygwyr/ymgeiswyr wedi dangos yn foddhaol bod osgoi a lliniaru yn amhosib yr ystyrir gwneud iawn, ac nad yw’r mesurau gwneud iawn yn arwain at golli unrhyw gynefinoedd.

Ar gyfer rhai achosion, bydd yn amhosib naill ai osgoi effaith niweidiol ar ecoleg y safle, neu liniaru neu leihau’r effeithiau niweidiol. Wedyn bydd rhaid gwneud iawn. Dim ond ar ôl i’r holl opsiynau eraill gael eu hystyried, heb ddod o hyd i ateb digonol, fydd hwn yn opsiwn. Dylai’r gwneud iawn fod yn berthnasol i’r golled ar y safle datblygu ac, yn y pen draw, dylai geisio sicrhau mantais ychwanegol yn gyffredinol i fioamrywiaeth.

Bydd graddfa’r mesurau gwneud iawn gofynnol yn dilyn gwaith ar neu yn agos at glwydi neu ystlumod yn dibynnu ar lefel y tarfu a’r lliniaru posib. Gellid gwneud iawn am rai mân effeithiau drwy ddarparu bocsys ystlumod yn neu’n agos at y lleoliad presennol. Bydd effeithiau mwy, fel colli clwyd yn gyfan gwbl, yn gofyn am wneud iawn ar raddfa fwy, fel safleoedd clwydo newydd. Byddai hynny’n golygu adeiladu ysgubor benodol i ystlumod. Fel rheol, rhaid ei hadeiladu cyn gwneud unrhyw waith dymchwel neu addasu, ac felly bydd yn effeithio ar amserlen y datblygiad.

Felly mae’n bwysig deall gofynion y drwydded yn llawn cyn llunio eich rhaglen ddatblygu yn derfynol. Beth bynnag yw’r mesurau gwneud iawn, mae’n hanfodol sicrhau dull o weithredu dim colled a bod swyddogaethau’r mesurau newydd yn cyfateb i’r hen rai. Un esiampl yw colli clwyd gaeafgysgu oherwydd datblygiad. Rhaid cynnig safle arall yn lle’r glwyd yma, sy’n glwyd gaeafgysgu addas ar gyfer y rhywogaeth benodol o ystlum oedd yn defnyddio’r glwyd gaeafgysgu flaenorol.

Gweler y cyngor ar fesurau cyfoes yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) Pump.

Fel y nodwyd yn gynharach, mae disgwyl i bob datblygiad mawr a sensitif ychwanegu at seilwaith gwyrdd mewn rhyw ffordd. Hefyd, gall pob datblygiad greu gwelliannau bioamrywiaeth drwy’r broses gynllunio.

Yn aml bydd datblygiadau mawr yn cynnwys arolwg gydag argymhellion ar gyfer gwelliannau bioamrywiaeth a fydd yn cael eu cynnwys fel amodau ar y cais. Ar y raddfa hon, rydym yn annog datblygwyr i ystyried gwelliannau bioamrywiaeth yng ngham cysyniad y cynllun. Hefyd rydym eisiau gweld cynlluniau arloesol sydd nid yn unig o fudd i fioamrywiaeth ond hefyd yn cynnwys manteision niferus drwy Ddull Gweithredu’r Seilwaith Gwyrdd.

Gall gwelliannau i adeiladau helpu i gynnal y boblogaeth bresennol o ystlumod ac os yw safleoedd clwydo addas yn brin, gall y rhain wella nifer yr ystlumod. Gellir cynnwys sawl nodwedd wahanol wrth ddatblygu i gefnogi poblogaethau o ystlumod. Gellir cynnwys brics ystlumod a bocsys ystlumod yn yr adeiladwaith, sy’n gudd a heb unrhyw ofynion cynnal a chadw. Hefyd gall nodweddion pwrpasol eraill sy’n briodol i’r datblygiad, fel teils crog a chladin pren, ddarparu budd ychwanegol.

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (BCT) yn dangos esiamplau o deils ystlumod, brics a bocsys ystlumod integredig.

Yn unol â’r gofynion arolygu, mae’r lleoliadau ar restr sbarduno’r BCT sydd angen arolwg, hyd yn oed os nad oes ystlumod yn bresennol, yn debygol o elwa mwy o’r gwelliannau. Yn yr achosion hyn, gellir cynnwys gwelliannau bioamrywiaeth syml fel amodau ar ddatblygiadau.

Sylwer nad yw cynnwys bocsys/brics ystlumod a theils mynediad yn cymryd lle’r lliniaru sy’n ofynnol fel rhan o’r drwydded.

Rhagor o wybodaeth am ystlumod

Mae gan y wefan (BCT) ragor o wybodaeth am ystlumod ac adeiladau. Gweler y cyngor ar gynyddu bioamrywiaeth yn nogfen TAN pump.

Weithiau gall eich datblygiad gynnwys gweithgaredd sy’n rhoi ystlumod sy’n defnyddio’r eiddo fel clwyd mewn perygl. Mae sawl ffactor, fel lleoliad yr adeilad, ei gyflwr neu ei fath, a’i hanes am ystlumod, yn dylanwadu i gyd ar y tebygolrwydd y bydd ystlumod yn bresennol. Ym mhob achos, rydym yn ystyried risg y datblygiad i ystlumod. Yn achlysurol, tra mae risg o ddod ar draws ystlumod yn ystod gwaith oherwydd natur y datblygiad, efallai nad yw ystlumod yn debygol o ddefnyddio’r adeilad. Mewn achosion o’r fath, ni fyddai’n rhesymol gofyn am gyflwyno arolwg ar ystlumod.

Os na wneir cais am arolwg ar ystlumod

Dylai pob ymgeisydd fod yn ymwybodol o ystlumod Prydain, eu safleoedd magu a’u mannau gorffwys, sydd wedi’u gwarchod gan gyfraith y DU fel y nodwyd uchod.

Mae llawer o rywogaethau o ystlumod yn dibynnu ar adeiladau ar gyfer clwydo ac mae pob math o ystlum yn ffafrio mathau penodol o glwydi. Mae rhai rhywogaethau’n clwydo mewn cilfachau fel o dan deils crib, tu ôl i ffelt toi neu mewn waliau gwag. Felly, nid ydynt yn cael eu gweld yn aml mewn gofod to. Mae clwydi ystlumod yn cael eu gwarchod hyd yn oed pan fo ystlumod yn absennol dros dro.

Efallai na fydd eich cais cynllunio angen arolwg ar ystlumod. Ond eto, ni all y posibilrwydd o ddod ar draws clwydi ystlumod pan mae gwaith yn dechrau gael ei eithrio heb arolwg llawn ar ystlumod. Yr ymgeisydd sy’n penderfynu a yw am gynnal arolwg ar ystlumod. Fodd bynnag, os yw’r ymgeisydd yn gwybod bod ystlumod yn defnyddio’r adeilad, mae’n hanfodol ei fod yn comisiynu arolwg ar ystlumod.

Arfer da gydag ystlumod

Rhaid i bob ymgeisydd gadw at y canllawiau arfer da os yw eu datblygiad yn cynnwys risg i ystlumod.

Dylai contractwyr fod yn ymwybodol bod siawns fechan o ddod ar draws clwydi ystlumod yn annisgwyl yn ystod gwaith datblygu. Os canfyddir ystlumod ar safle, dylid atal y gwaith ar unwaith a gofyn am gyngor gan CNC. Gellir cysylltu a hwy ar enquiries@naturalresourceswales.gov.uk neu 0300 065 3000.

Mae rhagor o wybodaeth am ystlumod ac adeiladau ar gael ar wefan BCT.

Credyd llun: 'Lesser horseshoe bat (Rhinolophus hipposideros) bats roosting' gan Jessicajil. Credyd trwydded.

Chwilio A i Y