Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Argaeledd Tir Cyflogaeth

Mae Polisi SP9 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn adnabod ac yn gwarchod 120 hectar o dir ledled y Fwrdeistref Sirol at ddibenion cyflogaeth. Mae Atodiad 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhoi cyfanswm y tir cyflogaeth gwag (a ddyrennir gan Bolisïau SP9 a REG1 yn y CDLl) yn y Fwrdeistref ac yn ei gategoreiddio yn ôl ei argaeledd. Diffinnir y tymor byr fel tir sydd ar gael o fewn 1 flwyddyn, y tymor canolig fel tir sydd ar gael ymhen 2 i 3 blynedd a’r tymor hir fel tir sydd ar gael ymhen 3 blynedd neu fwy.

Caiff argaeledd tir cyflogaeth ei asesu a’i arolygu’n flynyddol ar y cyd ag Uned Datblygu Economaidd y Cyngor. Mae canlyniadau’r arolygon hyn i’w gweld isod.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Chwilio A i Y