Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar y strategaeth i ddisodli’r cynllun datblygu lleol

Rydym yn ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir gennym i Ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r strategaeth yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer paratoi polisïau, cynigion a dyraniadau defnydd tir manylach yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo sydd ar y gweill. Hefyd, mae’r strategaeth yn rhoi ein gweledigaeth, ein hamcanion strategol a’r Strategaeth Ofodol ar gyfer datblygiad a thwf Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Mae’n gyfres o bolisïau strategol ar gyfer prif flaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Safbwynt yr ymgynghoriad hwn yn y broses o ddisodli’r CDLl

Y strategaeth a ffefrir yw rhan gyntaf y broses o ddisodli CDLl Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n cyfleu diwedd y gwaith o baratoi ac ymgysylltu’r cynllun cyn adneuo, ac felly, dyma’r ‘Ymgynghoriad Cyhoeddus Statudol ar y Cynigion cyn Adneuo’.

Cyflwyno sylwadau am y strategaeth a ffefrir

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud sylwadau ar y strategaeth a ffefrir ar gyfer CDLl Pen-y-bont ar Ogwr yw 5pm ar 8 Tachwedd 2019.

Strategaeth a ffurflen ymateb mae modd eu lawrlwytho

Rydych chi'n gallu cymryd rhan drwy lawrlwytho’r ddogfen strategaeth a’r ffurflen ymateb isod. Anfonwch hi at y manylion cyswllt a nodir.

Cysylltu:

Cynllunio Datblygu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643168
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mynd i ddigwyddiad ymgynghori

Yn y digwyddiadau hyn, gallwch siarad â swyddog cynllunio. Fodd bynnag, bydd dal angen i sylwadau ar yr ymgynghoriad gael eu gwneud yn ysgrifenedig o ran yr opsiynau uchod.

Amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir o ran Disodli’r Cynllun Datblygu Lleol.
Lleoliad Dyddiad ac amser
Portakabin yn Adeiladau Jennings, Porthcawl

7 Hydref 12pm tan 6pm

8 Hydref 10am tan 1pm

Llyfrgell Pil

14 Hydref 2pm tan 6pm

15 Hydref 10am tan 1pm

Llyfrgell Pencoed

21 Hydref 2pm tan 6pm

22 Hydref 10am tan 1pm

Ystafell Gyfarfod Cyngor Tref Maesteg

28 hydref 2pm tan 6pm

29 hydref 10am tan 1pm

Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr 4 tan 8 Tachwedd 8.30am tan 5pm

Mae copïau o’r Ddogfen Ymgynghori ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir hefyd ar gael yn ystod oriau agor swyddfeydd y cyngor a’r llyfrgelloedd.

Dogfennau ategol

Mae’r rhain ar gael mewn fformatau eraill ar gais.

Chwilio A i Y