Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cais am gyflwyno darpar safleoedd

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd i’r Fwrdeistref Sirol. Cam nesaf proses y CDLl yw gweithio ar baratoi cynigion ar adnau. Y cam cyntaf yw gofyn i ddatblygwyr, tirfeddianwyr a’r cyhoedd enwebu ‘Safleoedd Posibl’ a allai gael eu dyrannu'n y CDLl sy'n cael ei greu.

Gallai hyn fod ar gyfer unrhyw ddefnydd tir gan gynnwys:

  • preswyl
  • cyflogaeth
  • manwerthu
  • mannau cyhoeddus agored
  • datblygu mwynau
  • datblygiadau gwastraff
  • defnyddiau cymunedol
  • defnyddiau twristiaeth

Nid oes gwarant y caiff y safleoedd a awgrymir ar y cam hwn eu mabwysiadu, ond bydd eu cyflwyno’n galluogi’r Cyngor i asesu argaeledd safleoedd wrth ffurfio Gweledigaeth i’r Cynllun ac Opsiynau Strategol dilynol i’w datblygu ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r Holiadur Asesu Safle Posibl wedi ei lunio i sicrhau integreiddio rhwng y Gwerthusiad Cynaliadwyedd a’r broses dewis safle. Bydd yr holiadur yn helpu i sicrhau bod partïon â diddordeb yn cynnwys gwybodaeth a data digonol i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gynnal asesiad trylwyr.

Os hoffech enwebu safle i’w ystyried, dylech gyflwyno cynllun yn amlinellu’r safle gydag Arolwg Ordnans ynghyd â holiadur yr asesiad. Mae copïau o’r Holiadur Safleoedd Posibl ar gael gan yr Adran Gynllunio, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont Ar Ogwr, CF31 4WB yn ystod oriau swyddfa arferol neu mewn unrhyw lyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol.

Ni chaiff unrhyw safleoedd a gyflwynir heb holiadur asesu wedi’i gwblhau eu hystyried.

Rhaid dychwelyd y cynlluniau a’r ffurflenni erbyn 5pm ar 9 Tachwedd er y byddem yn gwerthfawrogi eu cael ynghynt na hyn.

Gall Swyddogion o dîm Cynllunio Datblygu'r Cyngor gynorthwyo wrth gwblhau'r holiadur os oes angen.

Ni allwn drin y wybodaeth a roddir fel gwybodaeth gyfrinachol a bydd pob safle posibl ar gael i’r cyhoedd ei archwilio.

Cyswllt

Cynllunio datblygiad

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643168
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y