Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arwyddion stryd, enwau a rhifau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n rheoli'r gwaith o enwi a rhifo strydoedd y cyngor bwrdeistref.

Ynghyd â chreu cyfeiriadau ar gyfer eiddo newydd, y cyngor sy’n goruchwylio’r newidiadau i enwau strydoedd ac eiddo, gan sicrhau enwau a rhifau rhesymegol er mwyn:

  • sicrhau bod cerbydau'r gwasanaethau brys yn gallu dod o hyd i gyfeiriadau'n hawdd
  • cludo post i’r lle cywir
  • rheoli cyfeiriadau cyson i helpu cyrff statudol

Byddwn yn pennu cyfeiriadau post ar gyfer adeiladau newydd, trosiadau tai neu newidiadau i enwau tai o fewn y fwrdeistref sirol. Bydd y Post Brenhinol yn gallu creu a phennu cod post i gyfeiriad unwaith y mae wedi'i enwi'n swyddogol gennym ni.

Weithiau, bydd eiddo’n cael eu cofrestru gyda’r cod post anghywir, a gallwn ymchwilio a chysylltu â'r Post Brenhinol er mwyn ceisio datrys unrhyw broblemau.

Mae datblygiadau newydd yn aml yn achosi problemau. Gall problemau godi o drosi adeilad yn sawl eiddo neu beidio â chofrestru datblygiad newydd yn gywir. Er mwyn datrys y materion hyn, caiff y camau arferol o ran enwi a rhifo tai eu gwneud mewn modd ôl-weithredol.

Problemau gyda’ch cyfeiriad

Gallwch adrodd am broblemau gyda’ch cyfeiriad i’r tîm Enwi a Rhifo Strydoedd:

Ffôn: 01656 643643

Adrodd am arwyddion enwau stryd gwallus/coll

Adroddwch am unrhyw ddifrod i arwyddion enw stryd neu rai coll drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein:

Ail-enwi eiddo

Dim ond ar ôl cyflwyno cais ffurfiol bydd newid cyfreithiol i enw neu rif eiddo'n cael ei ystyried. Dylech un ai fod yn berchen ar yr eiddo neu gael caniatâd eich landlord cyn ymgeisio.

Dylech wneud cais uniongyrchol hefyd i’r Gofrestrfa Tir i wneud cais am ddiweddariad i'r Gofrestr Tir yn sgil newid enw tŷ, ac efallai y bydd angen talu ffi ychwanegol i'r Gofrestrfa Tir. 

Mae canllawiau arfer gorau’n nodi os yw cais:

  • yn rhoi enw ar gyfeiriad, mae’n bosibl y bydd yn cael ei weithredu os nad yw'n gwrthdaro ag unrhyw gyfeiriadau yn y stryd/lleoliad
  • yn disodli rhif eiddo gydag enw'n unig, bydd yn cael ei wrthod

Datblygiadau newydd

Ar gyfer unrhyw adeilad newydd neu drosi adeilad yn sawl uned, mae’n rhaid i ddatblygwyr gyflwyno cais i’n Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd. Mae’r gwasanaeth hwn yn costio.

Yn ystod y broses, byddwn yn creu atodlen rifo fel y gall y Post Brenhinol bennu’r codau post cywir.

Y broses o enwi a rhifo strydoedd neu adeiladau:

  1. Mae’n rhaid i’r cyngor ymgynghori â’r cynghorau cymuned a thref perthnasol, y Post Brenhinol a chynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gall y broses gymryd 12 wythnos a chyfrifoldeb y datblygwr yw caniatáu digon o amser ar gyfer yr ymgynghoriad.
  2. Caiff enw’r stryd ei gytuno.
  3. Mae’n rhaid i 50% o’r eiddo fod wrthi’n cael eu hadeiladu cyn y bydd atodlen rifo’n cael ei chreu. Mae hyn yn osgoi’r angen i ail-rifo o ganlyniad i newidiadau i'r camau adeiladu.
  4. Bydd y Post Brenhinol yn derbyn atodlen rifo fel bod modd iddynt roi codau post i eiddo, a fydd yn cael ei hanfon at y datblygwyr a'r perchnogion tai.
  5. Y datblygwr sy’n gorfod gosod yr arwydd enw stryd cyntaf. Bydd y manylebau’n cael eu darparu.

 

Meini prawf ar gyfer enwi strydoedd neu adeiladau

Gall datblygwyr awgrymu enwau ar gyfer strydoedd neu adeiladau newydd. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yn ystod yr ymgynghoriad, ond mae’n rhaid i enw newydd fod yn berthnasol i hanes, daearyddiaeth a nodweddion naturiol safle. Yn ogystal, byddwn yn hyrwyddo defnyddio enwau stryd Cymraeg lle bo’n bosibl.

Costau enwi strydoedd, rhifo strydoedd a chodau post

Gwasanaeth: Pris:
Newid enw tŷ/Enw tŷ newydd £42.85 
Cadarnhau cyfeiriad post (cyfreithwyr a throsglwyddo’n unig) £42.85 
Enwi a rhifo datblygiadau (hyd at 5 llain) £205.15 
Enwi a rhifo datblygiadau (mwy na 5 llain)

£426.95 


Ni fydd unrhyw gamau’n cael eu rhoi ar waith nes bydd y taliad llawn wedi’i dderbyn.

Bydd unrhyw ddatblygwr sy’n newid gosodiad y tai ar ôl creu atodlen rifo yn gorfod talu am atodlen newydd, fel y nodir uchod.

Cyswllt

Enwi a Rhifo Strydoedd
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Cymunedau Cymorth Busnes, Swyddfeydd Dinesig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4LJ.

Chwilio A i Y