Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwastraff swmpus

Cyn trefnu i’ch eitemau gael eu casglu, meddyliwch a oes modd eu hailddefnyddio. Efallai y bydd y siopau hyn yn casglu’r eitemau nad ydych eu heisiau: Sefydliad Prydeinig y Galon, Emmaus, Ambiwlans Awyr.

 

Costau casglu

Mae’r gwasanaeth yn costio £30 am hyd at dair eitem. Gall eitemau ychwanegol gael eu casglu am £6.39 yr un, hyd at uchafswm o 15 eitem. Gallwch archebu casgliad gwastraff swmpus dro ar ôl tro.

Trefnu Casgliad  

Gallwch archebu casgliad gwastraff swmpus ar-lein. Nodwch eich cod post ac yna dewiswch ‘cais casglu gwastraff swmpus'.

Bydd eich gwastraff swmpus yn cael ei gasglu ar yr un dydd â'ch casgliad ailgylchu nesaf, oni bai bod eich diwrnod ailgylchu nesaf fory. Os mai dyma’r achos, caiff ei gasglu wythnos i fory.

Os yw eich casgliad ailgylchu yn digwydd yfory a’ch cais wedi ei brosesu ar ôl hanner dydd yna ni fydd eich casgliad yn digwydd tan yr wythnos ganlynol.

Nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar gael i fusnesau neu landlordiaid, gan mai gwastraff masnachol yw hyn.

Rydym yn casglu

Rydym yn casglu amrywiaeth eang o wastraff y cartref, gan gynnwys:

  • soffas
  • cadeiriau
  • byrddau
  • carpedi ac isgarped
  • llefydd tân pren
  • tanau nwy neu drydan
  • drysau
  • gwelyau, matresi, pen gwely a thinbren
  • setiau teledu
  • peiriannau golchi a sychu
  • oergelloedd a rhewgelloedd
  • poptai, microdon, ffwrn a hob
  • peiriannau golchi llestri
  • ffannau echdynnu
  • peiriannau torri gwair
  • meinciau a chadeiriau’r ardd
  • llinellau sychu dillad cylchol
  • cyfrifiaduron, gan gynnwys monitor, gliniadur a bysellfwrdd
  • eitemau trydanol bach eraill

Bydd angen i ni asesu’r eitemau canlynol:

  • unedau cegin
  • arwynebau gweithio
  • pren rhydd
  • symiau bach o wastraff rhydd - bydd isafswm tâl o £25

Nid ydym yn casglu

Nid ydym yn casglu:

  • swîts ystafell ymolchi, gan gynnwys teils
  • boeleri cyfunol
  • rheiddiaduron
  • peipiau glaw
  • ffensys
  • drysau garej
  • gatiau
  • lloriau laminedig
  • rwbel neu graidd caled
  • tanciau pysgod
  • tiwbiau goleuo fflworoleuol
  • gwastraff gwyrdd
  • siediau gardd

Os oes gennych unrhyw rai o’r eitemau hyn, gallwch fynd â nhw i’n canolfannau ailgylchu cymunedol. Os oes angen i chi ddefnyddio fan neu drelar i gludo’r gwastraff, bydd angen i chi archebu trwydded dipio.

Os nad ydych yn gallu mynd â’r eitemau hyn i’r safle ailgylchu eich hun, bydd angen i chi logi sgip neu gontractwr gwastraff preifat. 

Chwilio A i Y