Canolfannau Ailgylchu Cymunedol
O ddydd Mawrth 1 Hydref ymlaen, bydd canolfannau ailgylchu cymunedol ym Mrynmenyn, Maesteg a’r Pîl yn symud i oriau gweithredu y gaeaf.
Canfod eich canolfan ailgylchu lleol.
Mae tair canolfan ailgylchu gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd. Mae’r rhain ym Mrynmenyn, Maesteg a Pîl.
Mae pob canolfan ailgylchu ar gau un diwrnod yr wythnos – Oriau agor.
Mae’r dyddiau cau wedi cael eu gwasgaru fel bod lleiafswm o ddau safle yn dal i fod ar gael i’r cyhoedd ar unrhyw amser, ac ar ôl astudio nifer yr ymwelwyr ym mhob safle, clustnodwyd y dyddiad lleiaf prysur ar gyfer cau.
Trefnwch eich ailgylchu cyn dod i’r ganolfan ailgylchu gymunedol i osgoi oedi. Gallwch roi bagiau o wastraff y cartref yn y sgip gwastraff cyffredinol, ond ni fyddant yn cael eu derbyn os ydynt yn cynnwys unrhyw ddeunydd y gellir ei ailgylchu.
Cofiwch y bydd y giatiau’n cael eu cau hyd at ugain munud yn gynnar efallai. Bydd hyn er mwyn rhoi lle i’r ceir sydd eisoes yn ciwio ar y safle, cyn i’r ganolfan ailgylchu gau.
Pîl
Cyfeiriad: Uned 40b Sturmi Way, Ystâd Ddiwydiannol Fferm Bentreff, Pîl, CF33 6BZ.
Oriau agor:
- Dydd Llun: 9am - 4pm
- Dydd Mawrth: ar gau
- Dydd Mercher: 9am - 4pm
- Dydd Iau: 9am - 4pm
- Dydd Gwener: 9am - 4pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 4pm
- Dydd Sul: 9am - 4pm
Siop ail-ddefnyddio Y Pîl
Cyfeiriad: Uned 40b Sturmi Way, Ystâd Ddiwydiannol Fferm Bentreff, Pîl, CF33 6BZ.
Oriau agor:
- Dydd Llun: 9am - 3pm
- Dydd Mercher: 9am - 3pm
- Dydd Iau: 9am - 3pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 3pm
Maesteg
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, CF34 0BQ.
Oriau agor:
- Dydd Llun: 9am - 4pm
- Dydd Mawrth: 9am - 4pm
- Dydd Mercher: 9am - 4pm
- Dydd Iau: ar gau
- Dydd Gwener: 9am - 4pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 4pm
- Dydd Sul: 9am - 4pm
The Sidings
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, CF34 0BQ.
Oriau agor:
- Dydd Mawrth: 9am - 3pm
- Dydd Gwener: 9am - 3pm
Bryncethin
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, Brynmenyn, CF32 9SZ.
Oriau agor:
- Dydd Llun: 9am - 4pm
- Dydd Mawrth: 9am - 4pm
- Dydd Mercher: ar gau
- Dydd Iau: 9am - 4pm
- Dydd Gwener: 9am - 4pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 4pm
- Dydd Sul: 9am - 4pm
Trwyddedau Tipio
Os yw eich cerbyd yn fan neu dryc picyp, rhaid ei gofrestru gyda thrwydded tipio cyn ymweld â chanolfannau ailgylchu cymunedol Pîl neu Faesteg. Mae hyn yn ein helpu ni i reoli’r gwaredu ar wastraff heb ddod o dai.
Hefyd bydd rhaid i chi gael trwydded os oes gan eich cerbyd drelar sydd rhwng 5 troedfedd a 6 troedfedd 6 modfedd (1.5m i 2m). Ni chaiff cerbydau neu drelars olwynion hir mawr sy’n fwy na 6 throedfedd (2m) ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu cymunedol.
Nid yw ceir, jîps na cherbydau MPV, na threlars llai na 5 troedfedd, angen trwyddedau.
Sylwer nad yw canolfan Brynmenyn yn caniatáu faniau na threlars.
Cael trwydded dipio
Gallwch gael trwyddedau tipio am ddim trwy ffonio 01656 643643 o leiaf 48 awr cyn eich bod eisiau dod i un o’r canolfannau.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhestr o eitemau rydych am eu hailgylchu
- y dyddiad a’r ganolfan rydych am fynd iddi
- rhif cofrestru, gwneuthuriad a model eich cerbyd
Mewn rhai achosion gallai fod angen i ni edrych ar y gwastraff rydych am ei waredu cyn rhoi trwydded. Gellir gwneud hyn yn eich cartref.
Yr hyn y gallwch ei ailgylchu yn eich canolfan leol
Cyn i chi fynd i’ch canolfan ailgylchu gymunedol leol, cadarnhewch ein bod yn gallu derbyn eich gwastraff. Gallwn ailgylchu:
- batris (car neu’r cartref)
- beiciau
- bric-a-brac
- bylbiau
- caniau
- cardbord
- deunyddiau plastig
- eitemau trydanol ac electronig
- gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd
- metel sgrap
- oergelloedd/rhewgelloedd
- olew coginio
- olew modur
- paent
- papur
- poteli a jariau gwydr
- pren
- pridd
- silindrau nwy
- tecstilau
Asbestos a gwastraff adeiladu
Mae asbestos yn cael ei dderbyn mewn sgip arbenigol yng nghanolfan Y Pîl ond dim ond gyda thrwydded tipio. Bydd rhaid talu ffi. Mae asbestos yn ddeunydd peryglus a rhaid cael gwared arno yn y ffordd gywir. Os caiff ei ollwng mewn sgipiau eraill yn ein canolfannau mae’n llygru gwastraff arall.
Os oes arnoch chi angen cael gware ar asbestos, cysylltwch â Kier i drefnu trwydded.
Mae bwrdd plastr, rwbel, pridd a chraidd caled yn cael eu hystyried yn wastraff adeiladu. Mae’r rhain yn cael eu cyfyngu i uchafswm pwysau o 17kg yr un. Ni chaniateir ail ymweliadau o fewn y 30 diwrnod calendr nesaf. Os oes gennych symiau mawr o’r rhain, bydd angen i chi archebu sgip neu logi cwmni gwaredu gwastraff. Ni dderbynnir gwastraff masnach.
Dim ond yn y sgip plastrfwrdd fydd plastrfwrdd yn cael ei ganiatáu, ac nid yn y sgip gwastraff cyffredinol. Bydd rhaid tynnu unrhyw ddeunydd arall sydd ar y plastrfwrdd, fel teiliau, cyn ei dderbyn.
Peidiwch â gadael gwastraff y tu allan i’r canolfannau ailgylchu cymunedol. Gallech gael eich erlyn am dipio anghyfreithlon.