Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ailgylchu a Gwastraff dros y Pasg

Gwybodaeth ynghylch gwasanaethau ailgylchu a gwastraff yn ystod cyfnod gwyliau’r Pasg, gan gynnwys:

  • Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
  • Canolfannau ailgylchu
  • Pethau sy’n bosib eu hailgylchu a phethau nad yw’n bosib eu hailgylchu.

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd rhai newidiadau i’r casgliadau ailgylchu a gwastraff dros gyfnod gwyliau’r Pasg:

  • Bydd casgliadau’n digwydd yn ôl yr arfer ar ddydd Gwener 29 Mawrth 2024 (Dydd Gwener y Groglith).
  • Bydd casgliadau'r wythnos yn dechrau dydd Llun 01 Ebrill 2024 yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer.
  • Bydd y casgliadau’n dychwelyd i’r diwrnodau arferol ar ddydd Llun 8 Ebrill 2024.

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod Casglu yn y Gwyliau

Dydd Llun 01 Ebrill

Dydd Mawrth 02 Ebrill

Dydd Mawrth 02 Ebrill

Dydd Mercher 03 Ebrill

Dydd Mercher 03 Ebrill

Dydd Iau 04 Ebrill

Dydd Iau 04 Ebrill

Dydd Gwener 05 Ebrill

Dydd Gwener 05 Ebrill

Dydd Sadwrn 06 Ebrill

Gofynnwn yn garedig ichi roi eich gwastraff ac ailgylchu ar ymyl eich eiddo erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad.

Beth sy’n bosib/ddim yn bosib ei ailgylchu y Pasg hwn

Ddim yn siŵr beth sy’n bosib ei ailgylchu a beth sydd ddim yn bosib ei ailgylchu y Pasg hwn? Dyma ganllaw syml:

Ia, os gwelwch yn dda

Dim diolch

Plastig clir wy Pasg

Papurau melysion neu siocled

Ffoil wy Pasg

Cardiau Pasg gyda glitter

Cardbord, gan gynnwys cardbord wy Pasg

Papur lapio

Gwastraff bwyd

Plastig du

Cardiau Pasg plaen

Papur seloffen

Hambyrddau ffoil glân

Papur swigod

Jariau a photeli gwydr

Rhubanau a chlymau bô

Poteli plastig

Polystyren

Tuniau bwyd a chaniau diod

 

 

Canolfannau Ailgylchu

Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor yn ôl yr arfer ar ddydd Gwener y Groglith, Dydd Sul y Pasg a’r dydd Llun gŵyl banc.

Oriau agor

Dydd Llun - Dydd Gwener: 8.30am - 7pm

Dydd Sadwrn - Dydd Sul: 8.30am - 5pm

Am fwy o wybodaeth ynghylch canolfannau ailgylchu yn y fwrdeistref sirol, ewch i’n tudalen canolfannau ailgylchu:

Chwilio A i Y