Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgyrch Recriwtio'r Nadolig yn dechrau yn hyrwyddo cyfleoedd gwaith yn y maes gofal cymdeithasol

Mae ymgyrch ‘12 Diwrnod o Ofal Nadolig’ y cyngor wedi dechrau, yn amlygu’r amrywiaeth o gyfleoedd gofal cymdeithasol sydd ar gael o fewn y cyngor.

Mae rolau staff sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer llesiant preswylwyr, ac mae hynny’n amlycach yn ystod yr amser hwn o’r flwyddyn.

Mae’r ymgyrch yn pwysleisio pwysigrwydd yr angen i staff gofal cymdeithasol gynnig cefnogaeth gorfforol, emosiynol a chymdeithasol i helpu pobl i fyw eu bywydau, gan ganolbwyntio’n benodol ar bwysigrwydd hyn dros y gaeaf a chyfnod yr ŵyl.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys Dafydd, a fydd yn cynorthwyo George i baratoi ei fwyd Nadolig, gan sicrhau bod ganddo’r holl fwyd blasus sydd ei angen ar gyfer y Nadolig, er mwyn iddo ef, a’i ymwelwyr, allu mwynhau eu hunain. Mae ein staff gofal yn y cartref yn cefnogi pobl o gysur eu cartrefi, fel bod modd iddynt fyw mor annibynnol â phosib.

Mae Jordan hefyd yn cael ein sylw, gan iddo helpu Ivy i osod ei choeden Nadolig a’i haddurniadau Nadolig. Nid oes modd i Ivy adael ei chartref yn hawdd, ac mae'r tîm gofal cartref yn darparu gwasanaethau sy’n cefnogi hawliau pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain mor gyfforddus â phosib.

Mae ein staff gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol ar draws ein holl gymunedau lleol, ac mae eu cefnogaeth yn allweddol o ran galluogi pobl i fyw bywydau cyflawn, hapus ac annibynnol.

Mae ystod o swyddi gwag ar gael yn y maes gofal cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gall unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais. Nid oes angen cymwysterau ym mhob achos, a gyda’r gefnogaeth a chyfleoedd hyfforddiant ar gynnig gennym fel sefydliad, mae gofal cymdeithasol wir yn swydd am oes.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd:

I weld y cyfleoedd diweddaraf, ewch i dudalen swyddi gofal cymdeithasol y cyngor.  Hefyd, cadwch olwg ar dudalennau’r cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch hwn.

Chwilio A i Y