Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft tai a digartrefedd yn cael caniatâd y Cabinet

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun drafft pedair blynedd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a digartrefedd cenedlaethol yn y fwrdeistref sirol.

Mae strategaeth ddrafft y cyngor ‘Cynllun Cefnogi Tai 2022-2026’ yn nodi’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y cyngor a’i bartneriaid, wrth atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth eraill sy’n ymwneud â thai. Mae'r blaenoriaethau hyn wedi eu datblygu yn dilyn adolygiad sylweddol o’r gwasanaethau hyn ac mewn ymgynghoriad â sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol.

Fel yr awdurdod tai ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae gofyn cyfreithiol ar y cyngor i gael strategaeth ddigartrefedd. Er nad oes gofyn cyfreithiol i gael strategaeth dai, mae yna gysylltiad cryf rhwng tai, digartrefedd, a chysgu allan.

Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd i Gabinet y Cyngor yr wythnos ddiwethaf, mae ffigyrau a ddarparwyd yn dangos bod ceisiadau o ganlyniad i ddigartrefedd wedi cynyddu 25 y cant dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Yn 2020/21, (blwyddyn gyntaf y pandemig), gwelodd y cyngor y nifer uchaf erioed o bobl yn nodi eu bod yn ddigartref, gyda 1,612 o geisiadau yn ystod y flwyddyn honno’n unig.

Yn ychwanegol, mae’r nifer a gafodd lety dros dro wedi cynyddu gymaint â 251 y cant ers 2019.

Ar hyn o bryd mae oddeutu 485 o bobl o 260 o aelwydydd mewn llety dros dro (diwedd Mehefin 2023). Cynyddodd nifer o aelwydydd ar y gofrestr tai cyffredin 212 y cant rhwng Mawrth 2020 a Chwefror 2023.

Ers diwedd Gorffennaf 2023, mae yna 2,629 o aelwydydd ar y gofrestr tai cyffredin, gyda bron i 60 y cant o ymgeiswyr yn aros am eiddo un llofft.

Mae’r ffigyrau hyn yn taro rhywun yn galed, a chyda chostau byw yn cynyddu’n gyflym ar ben hynny mae angen i ni ddod o hyd i atebion ar y cyd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn yr hyn sydd eisoes yn hinsawdd ariannol heriol i’r awdurdod. Bydd ein strategaeth ddrafft yn ein cynorthwyo i weithio’n fwy effeithiol tuag at oresgyn yr heriau hyn.

Gydag anghenion aelwydydd yn dod yn fwy cymhleth ac yn ddibynnol ar amser, mae’r galw am dai fforddiadwy a gwasanaethau cymorth heb ei debyg. Mae’r strategaeth ddrafft yn nodi sut fyddwn yn cydweithio gyda’n partneriaid a gwasanaethau’r trydydd sector i sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin, yn digwydd am gyfnod byr a dim ond yn digwydd unwaith.

Ni ddylid tanbrisio maint yr her sydd o’n blaenau. Fodd bynnag, gydag ymrwymiad parhaus i’n blaenoriaethau strategol a chyda datblygiad y dull newydd i ddigartrefedd, ‘Ailgartrefu Cyflym’, rydym yn gobeithio gwneud newid go iawn yn ein cymuned.

Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio, y Cynghorydd Rhys Goode

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn dechrau cyn bo hir, ac anogir holl aelodau’r gymuned i gymryd rhan, a bydd rhagor o fanylion i ddilyn.

Yn y cyfamser, gofynnwn i bawb sy’n cael eu bygwth â gorchymyn troi allan i hysbysu’r cyngor cyn gynted ag y bo modd, er mwyn sicrhau ymyrraeth gynnar a datrysiad cyflym.

Am ragor o gyngor ewch i’n tudalen cyngor ar ddigartrefedd ac atal digartrefedd ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 01656 643643.

Chwilio A i Y