Y Cyngor yn lansio ymgyrch recriwtio dros y Nadolig i gynyddu nifer y gweithwyr gofal cymdeithasol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Rhagfyr 2022
Yn ystod y cyfnod cyn y gaeaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog pobl i ‘Roi anrheg gofal’ dros y Nadolig, yn rhan o ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer staff gofal cymdeithasol.
Ochr yn ochr â Deuddeg Dydd y Nadolig, mae’r ymgyrch, sy’n lansio heddiw (dydd Mawrth 6 Rhagfyr) yn amlygu’r cyfleoedd swyddi amrywiol sydd ar gael yn nhimau gofal cymdeithasol y Cyngor.
Mae’r ymgyrch, sy’n pwysleisio’r angen i staff gofal cymdeithasol ddarparu cefnogaeth gorfforol, emosiynol a chymdeithasol i helpu pobl fyw eu bywydau, yn canolbwyntio ar sut mae hyn yn benodol bwysig dros y gaeaf a chyfnod y Nadolig.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys Penny, rheolwr cartref gofal yn y fwrdeistref sirol, a ddywedodd:
“Do’n i erioed wedi bwriadu cael gyrfa mewn gofal, ac roedd fy nghynnydd yn bennaf gan fy mod yn chwilio am yr her nesaf, ond dyma’r cam gorau i mi ei gymryd erioed.
“Dwi’n credu bod gweithio mewn swydd sy’n eich galluogi i helpu eraill yn talu ar ei ganfed. Mae gennych gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, creu perthnasoedd cryf gyda’r preswylydd a’ch cydweithwyr, a chael hwyl dda ar hyd y daith.
“Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio gyda phobl oedd â pherthnasoedd ar y Titanic, wedi cymryd rhan mewn gweithdai llenyddol gyda Dylan Thomas, wedi bod yn aelodau-sylfaenwyr Opera Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn rhieni sêr y byd pop a phobl busnes enwog a dylunwyr ffasiwn.
“Pobl sydd wedi cael gyrfaoedd anhygoel eu hunain, megis gwniyddesau’r teulu brenhinol a phobl sydd wedi gorymdeithio i brotestio yn erbyn rhyfeloedd cartref.
“Mae gan ein henoed straeon hyfryd i’w rhannu, ac mae eu clywed nhw wedi bod yn fraint. Byddwn yn argymell gyrfa ym maes gofal i unrhyw un gyda chalon garedig a diddordeb mewn pobl eraill.”
Mae’r cyngor yn chwilio am ragor o bobl i wneud y gwaith hanfodol hwn, yn enwedig gyda’r gaeaf ar drothwy a disgwyl i’r galw gynyddu, yng nghyd-destun prinder cenedlaethol o staff gofal cymdeithasol. Mae pobl sy’n gweithio yn y swydd hon wedi ymroi i gefnogi unigolion a’u teuluoedd, ac mae’r gefnogaeth honno’n allweddol i alluogi pobl i fyw bywydau llawn, bodlon ac annibynnol.
Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn amrywiol iawn. Gallech fod yn treulio amser gyda phobl hŷn, plant a phobl ifanc, pobl â dementia, pobl ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol, pobl ag awtistiaeth neu bobl ag ystod o anghenion gofal cymdeithasol. Bydd pawb yn gallu dod o hyd i swydd maen nhw’n angerddol drosti ym maes gofal cymdeithasol, gan fod cymaint o hyblygrwydd. Mae gennym swyddi ar draws y fwrdeistref sirol, gydag oriau hyblyg, y gallu i weithio’n lleol, a hyfforddiant cynhwysfawr ar gael i sicrhau bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich swydd.
Mae cyfleoedd i weithio yn y sector gofal yn amrywio o staff cartrefi gofal a gweithwyr adsefydlu sy’n mynd allan i ofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain, i uwch ymarferwyr iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol. Mae cyfleoedd gwaith cymdeithasol ar gael hefyd gyda chwrs gradd a ariennir ar gael. Mae ystod o swyddi gwag gofal cymdeithasol ar gael ar hyn o bryd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gall unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais. Does dim angen i chi fod â chymwysterau, a chyda’r gefnogaeth lawn, a’r cyfleoedd hyfforddiant rydyn ni’n eu cynnig fel sefydliad, mae’n swydd am oes.
Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Jane Gebbie
Mae rhestr lawn o’r swyddi gwag gofal cymdeithasol ar gael ar wefan yr awdurdod lleol.
Mae swyddi ar gael i bobl â thrwydded yrru, a phobl sydd heb drwydded yrru.