Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn gweithio â Chlwb Rygbi Pêl-droed Pen-y-bont ar Ogwr i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol.

Tîm Ymgysylltu Baeddu gan Gŵn y cyngor, gyda Huw David, Arweinydd y Cyngor, a Ronnie the Raven, Masgot Cigfrain Pen-y-bont ar Ogwr, ac Aled Evans ac Evan Yardley o Dîm Cigfrain Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghaeau Newbridge, Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd Clwb Rygbi Pêl-droed Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn mynd i'r afael â'r broblem o faw cŵn ar gaeau chwarae ar draws y fwrdeistref sirol.

Yr wythnos hon, ymunodd ‘Ronnie the Raven’, a chwaraewyr y Clwb Rygbi, sydd yn Uwch Gynghrair Cymru, ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac aelodau o’n tîm Ymgysylltu Baeddu gan Gŵn ar gyfer digwyddiad yng Nghaeau Newbridge, er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd cael gwared ar faw ci mewn modd cyfrifol, ac amlygu peryglon baw ci i bobl ac anifeiliaid anwes.

Mae’r digwyddiad yn dilyn digwyddiadau ymgysylltu blaenorol a gynhaliwyd fel rhan o ymgynghoriad diweddar y cyngor â’r cyhoedd i ymestyn ei Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol, a fydd yn cynnig y telerau canlynol ar gyfer mannau cyhoeddus:

  • Gallai perchnogion cŵn dderbyn dirwy o £100 os na fyddant yn cael gwared â baw eu cŵn drwy ei gasglu mewn bag, neu drwy ddull addas arall. Dylid rhoi’r gwastraff sydd mewn bagiau mewn bin sbwriel, bin gwastraff cŵn neu fynd ag ef adref.
  • Rhaid i berchnogion cŵn gario bagiau neu ddulliau addas eraill i gasglu gwastraff cŵn.
  • Ar gais swyddog awdurdodedig, mae'n rhaid i berchnogion cŵn roi’r cŵn sydd dan eu rheolaeth ar dennyn mewn lleoliad penodol ac am gyfnod penodol o amser. Bydd methu â chydymffurfio a hynny yn drosedd, a allai hefyd arwain at ddirwy o £100.

Rydym yn clywed yn llawer rhy aml am chwaraewyr sydd yn dioddef o heintiau difrifol wedi iddynt frifo wrth chwarae ar gaeau lle'r oedd baw cŵn heb ei gasglu. Fel clwb lleol, rydym yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau yn y gymuned, a dyma gyfle anhygoel i ni weithio gyda’r awdurdod lleol i addysgu a hysbysu aelodau o’r cyhoedd o beryglon gadael baw cŵn ar gaeau chwarae, a’r peryg mawr a all ei achosi i chwaraewyr rygbi a phêl-droed. Yr unig drosedd y dylid ei gweld ar y cae yw camchwarae gan y chwaraewyr!

Craig Thomas, rheolwr masnachol Cigfrain Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn croesawu’r gefnogaeth gan Glwb Rygbi Pêl-droed Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni godi ymwybyddiaeth o beryglon baw cŵn a adewir ar gaeau chwarae ledled y fwrdeistref sirol. Gall baw cŵn gario bacteria niweidiol a all aros yn y pridd yn hir ar ôl iddo bydru, a dylai bod plant a chwaraewyr yn gallu gwneud defnydd o'r ardaloedd hyn heb fod mewn perygl.

Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gall baw cŵn gario bacteria niweidiol a all aros yn y pridd yn hir ar ôl iddo bydru, a dylai bod plant a chwaraewyr yn gallu gwneud defnydd o'r ardaloedd hyn heb fod mewn perygl.”

Os hoffech adrodd am fater sy’n ymwneud â baw cŵn, ewch i wefan y cyngor.

 

Pennawd y llun: Tîm Ymgysylltu Baeddu gan Gŵn y cyngor, gyda Huw David, Arweinydd y Cyngor, a Ronnie the Raven, Masgot Cigfrain Pen-y-bont ar Ogwr, ac Aled Evans ac Evan Yardley o Dîm Cigfrain Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghaeau Newbridge, Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y