Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn dangos cefnogaeth i oroeswyr a phobl sy’n dioddef o drais yn y cartref

Mae Rhuban Gwyn yn ymgyrch ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd sy’n dechrau ar 25 Tachwedd ac yn anelu i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â thrais gan ddynion yn erbyn merched. Mae symbol y Rhuban Gwyn yn cynrychioli ein cred bod trais, waeth ym mha ffurf, yn annerbyniol.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn nodi cychwyn 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais yn y cartref. Eleni, y thema yw #NewidYStori, ac anogir unigolion a sefydliadau i wneud penderfyniadau cyson ac i weithredu’n gyson i newid y stori ar gyfer merched a genethod, fel eu bod yn gallu byw eu bywydau yn rhydd rhag bod ofn trais.

Nid oes lle i drais yn y cartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dyna pam mae’r cyngor yn hedfan banner y Rhuban Gwyn dwy gydol yr 16 diwrnod o weithredu.

Mae gan Wasanaethau Trais yn y Cartref Assia y cyngor arddangosfa yn ffenestr ein Swyddfeydd Dinesig hefyd er mwyn arddangos ein cefnogaeth barhaus, ac maent yn cynnal apêl ‘Santa Cudd’ cyn y Nadolig, yn gofyn i bobl roddi anrheg fechan i blant o deuluoedd sy’n derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r gwasanaeth yn chwilio am anrhegion ar gyfer merched a bechgyn rhwng un a deunaw oed. Os hoffech helpu, ewch a’ch anrhegion i dderbynfa ein Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, a gofynnwch am aelod o staff Assia. Rhaid cyflwyno’r anrhegion erbyn 15 Rhagfyr er mwyn iddynt gyrraedd mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn, a’r 16 diwrnod cysylltiedig o weithredu, yn ein hatgoffa o'r angen i godi ymwybyddiaeth, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais a chamdriniaeth.

Thema eleni yw #NewidYStori ac rydym yn ymuno â’r galw i bob unigolyn a sefydliad newid y stori er budd merched a genethod. Gall rhai geiriau a ffyrdd o ymddwyn ymddangos yn “ddiniwed”, ond mae normaleiddio’r mathau hyn o ymddygiad yn anwybyddu’r effeithiau byrdymor a hirdymor ar ferched, ac felly gall arwain at drais mwy eithafol.

Mae’r ymgyrch Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa i leisio ein barn, ac i weithredu yn erbyn, a gwrthwynebu, trais yn erbyn merched.

Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Os ydych chi, neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn profi trais yn y cartref, mae cymorth ar gael gan Wasanaeth Cefnogaeth Assia: https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/gofal-cymdeithasol-a-lles/atal-a-lles/cam-drin-domestig/

Llun (ch i dd): Dawn Llewellyn, Gwasanaeth Cwsmeriaid (BCBC), Kimberley Coles and Helen Moses, Assia DAS, Jane Gebbie, Cynghorydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Zoe Edwards, Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldebau (BCBC) a Kirsty Williams, Rheolwr Partneriaethau a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (BCBC), yn annog pobl i lofnodi addewid y Rhuban Gwyn i #NewidYStori.

Chwilio A i Y