Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor a phartneriaid yn cadarnhau trefniadau ar gyfer gwyliau'r Nadolig

Atgoffir preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd newidiadau i rai gwasanaethau a gynigir gan y cyngor a’i bartneriaid dros y gwyliau Nadolig sydd ar fin dechrau.

Bydd Gwasanaethau Cwsmer wedi cau ar wyliau banc (Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan) ond bydd cefnogaeth yn parhau i fod ar gael fel yr arfer ar bob diwrnod arall. Dyddiau Llun-Iau (8.30am-5pm) a dyddiau Gwener (8.30am-4.30pm).

Bydd gwasanaeth Fy Nghyfrif yn dal i fod ar gael dros yr ŵyl, a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o faterion yn cynnwys budd-daliadau tai, y dreth gyngor, priffyrdd, rheoli plâu, derbyniadau ysgol a mwy. Bydd cymorth brys y tu hwnt i oriau ar gael drwy Uned Cefnogi Cwsmeriaid a Chymunedau (CCSU).

Bydd ychydig o newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu hefyd:

  • Bydd casgliadau sydd i fod i ddigwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 25 Rhagfyr 2023 (Dydd Nadolig) yn digwydd dau ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer.

 

  • Bydd casgliadau sydd i fod i ddigwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 1 Ionawr 2024 (Dydd Calan) yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer.

Gall preswylwyr roi un bag bin ychwanegol allan ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf ar ôl Dydd Nadolig.

Bydd pob Canolfan Ailgylchu Gymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan ond ar agor fel yr arfer ar bob diwrnod arall. Mae modd ailgylchu coed Nadolig go iawn ym mhob canolfan ailgylchu gymunedol a gallwch fynd â nhw i Ddepo Waterton hefyd o 2 Ionawr.

Ar gyfer unrhyw un a fyddai’n hoffi cofio’n annwyl am anwyliaid, bydd Amlosgfa Llangrallo ar agor rhwng 10.30am a 4pm ar wyliau banc a dyddiau Sul. Ar bob diwrnod arall, bydd yr oriau agor arferol dros y gaeaf yn weithredol (Llun-Iau 9am-5pm) a (Gwener-Sadwrn 9am-4pm). Bydd giatiau'r fynedfa yn cloi 10 munud cyn yr amser cau.

Bydd y giatiau i gerbydau mewn amlosgfeydd lleol yn agor ddydd Gwener 22 Tachwedd a byddant yn parhau i fod ar agor hyd at ddydd Mercher 27 Rhagfyr. Y tu hwnt i’r oriau hyn, bydd y giatiau i gerddwyr ar agor bob awr o'r dydd, fel ag y maent drwy gydol y flwyddyn.

Mae yna rai newidiadau i amseroedd agor ar gyfer pyllau nofio a chanolfannau bywyd lleol hefyd. Mae amseroedd agor yn amrywio fesul canolfan, ewch i wefan Halo am y manylion llawn. Mae Awen hefyd wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer llyfrgelloedd drwy gydol y Nadolig.

Unwaith eto, bydd cefnogaeth ar gael i unrhyw un sy’n ddigartref neu mewn risg o fod yn ddigartref y Nadolig hwn.

Os oes unrhyw un yn bryderus am rywun a all fod yn cysgu allan, mae modd adrodd hyn gan ddefnyddio ap neu wefan Street Link a bydd rhybudd yn cael ei anfon. Mae gwneud hynny yn golygu bod manylion yn cael eu hanfon at yr awdurdod lleol neu The Wallich, ac yna gwneir ymdrechion i ddod o hyd i’r sawl sy’n cysgu allan a sicrhau ei fod yn cael mynediad at ystod eang o gefnogaeth.

Chwilio A i Y