Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Terfyn cyflymder newydd o 20mya yn anelu i wella diogelwch ffyrdd

Wrth i gymunedau ledled Cymru baratoi ar gyfer cyflwyno terfyn cyflymder 20mya newydd ar Fedi 17eg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgelu pa ffyrdd lleol mae'r awdurdod yn credu y dylid eu heithrio o'r newid.

Fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru, mae’r newid i’r terfyn cyflymder wedi’i gynllunio i leihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiadau, anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd neu rannau o lwybrau sydd â therfyn cyflymder o 30mya ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u lleoli’n bennaf o fewn ardaloedd preswyl ac adeiledig.

Mae’r dystiolaeth o bob rhan o’r byd yn glir iawn – mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae cyflymderau arafach hefyd yn helpu i greu cymuned fwy diogel a chroesawgar, gan roi’r hyder i bobl gerdded a beicio mwy. Mae’n gwella eu hiechyd a’u lles tra’n diogelu’r amgylchedd.

Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth

Mae rhestr o eithriadau arfaethedig wedi'i llunio yn dilyn dadansoddiad gofalus gan dîm Rheoli Traffig y Cyngor, yn ogystal ag adborth gan drigolion lleol. Ffurfiwyd y rhestr yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a gynhaliwyd yn gynharach eleni, ac arweiniodd at nifer o addasiadau i hyd nifer o’r llwybrau eithriedig arfaethedig.

I sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn barod ar gyfer lansiad y terfyn cyflymder newydd, mae gorchymyn traffig arfaethedig wedi ei gyhoeddi ac mae ar gael i’w ddarllen ar ein tudalen Hysbysiadau Cyfreithiol

Mae hwn yn manylu ar ba ffyrdd neu rannau penodol o lwybr fydd yn cadw’r terfyn 30mya, ac yn egluro sut y gall pobl wneud sylwadau ar eithriadau unigol neu wrthwynebu. Mae'r ffyrdd a darnau o lwybrau a gedwir hefyd wedi'u huwchlwytho i wefan MapDataCymru i'w wneud yn haws i bobl wirio eu hunion leoliadau a’u hyd.

Mae ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o astudiaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi awgrymu y gallai terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya arwain at 40 y cant yn llai o wrthdrawiadau, gan arbed rhwng chwech a deg o fywydau’r flwyddyn, ac osgoi anafiadau i rhwng 1,200 a 2,000 o bobl.

Mae tystiolaeth hefyd wedi cadarnhau, pan fydd cyflymder cerbydau yn cael ei ostwng, mae pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth gerdded a beicio. Mae’n llawer mwy diogel i blant chwarae neu gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, ac mae pobl sy’n hŷn, yn anabl neu ag anghenion ychwanegol yn ei chael hi’n haws teithio’n annibynnol.

Gan nad yw pob ffordd yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya, rydym wedi dadansoddi ac ystyried cyfanswm o 97 o lwybrau lleol yn ofalus lle nad ydym yn teimlo y byddai newid yn fuddiol. Gall trigolion fod yn sicr y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn barod ar gyfer y newid terfyn cyflymder ar Fedi 17eg, ac y byddwn yn monitro’r cynllun yn agos.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y