Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sul y Cofio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ddydd Sadwrn 11 Tachwedd (Diwrnod y Cadoediad) a dydd Sul 12 Tachwedd (Sul y Cofio), bydd trefi a chymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal gwasanaethau, digwyddiadau a gorymdeithiau ar gyfer Sul y Cofio 2023.

Bydd gorymdaith, wedi’i threfnu gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a’i harwain gan Fand Pibau Dinas Abertawe, yn dod ynghyd ar Stryd Adare yn y gyffordd â Stryd Wyndham am 10.25am ar Sul y Cofio.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.40am ac yn mynd heibio'r Gofeb Ryfel, Dunraven Place ar gyfer gwasanaeth gan y Parchedig Rachel Wheeler. Bydd Côr Meibion Pen-y-bont ar Ogwr a Band Pres Lewis-Merthyr yn darparu cymorth cerddorol.

Bydd Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol yn bresennol a bydd yn arwain y saliwt ar ôl y gwasanaeth.

Bydd cynrychiolwyr y Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr, Sefydliadau a Chymdeithasau Dinesig, Cynghorau Tref a Chymuned, ac aelodau'r cyhoedd yn mynychu i gydnabod y coffâd.

Ymhlith digwyddiadau Coffa eraill sy’n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae:

  • Abercynffig – Gwasanaeth Coffa ddydd Sadwrn 11 Tachwedd am 10.45am yn Sgwâr Abercynffig.
  • Bryncethin – Gwasanaeth Coffa, Neuadd Goffa Bryncethin, 2pm ddydd Sul 12 Tachwedd.
  • Caerau – Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 12 Tachwedd am 9.45am, Eglwys Sant Cynfelyn, Cymmer Road, Caerau, ac yna gwasanaeth ger y gofeb ryfel yn y pentref ar Sgwâr Caerau am 10.55am.
  • Corneli – Gwasanaeth Coffa - Canolfan Gymunedol Corneli — dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2023. Bydd y Gwasanaeth yn dechrau am 10.45am. 
  • Cefn Cribwr - cynhelir Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 12 Tachwedd, 10am yn Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Cefn Cribwr ac yna gwasanaeth ger cofeb ryfel y pentref ar Dir Comin Mynydd Bach am 10.55am.
  • Llangrallo - Gweithgaredd Coffa byr yn Neuadd Goffa Williams, Prif Ffordd, Llangrallo, CF35 5ES, ddydd Sul 12 Tachwedd, 10.50 tan 11.10am.
  • Mynydd Cynffig - Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 12 Tachwedd, yn Eglwys Sant Theodore, Stryd Fawr, Mynydd Cynffig, am 10am ac yna gwasanaeth ger y senotaff yn Lle Moriah (croes uchaf) am 10.45am.
  • Llangynwyd - Cynhelir Gwasanaeth Coffa yn Neuadd Bentref Llangynwyd ddydd Gwener 10 Tachwedd am 10.30am ac yna gosodir torchau ar y gofeb ryfel. Bydd lluniaeth ar gael yn y neuadd wedyn.
  • Maesteg – Apêl Pabi y Lleng Brydeinig Frenhinol, ddydd Gwener 10 Tachwedd, Gŵyl Goffa 7pm – 9.30pm yng Nghlwb Rygbi 7777 Maesteg, Stryd y Castell, Maesteg.
  • Nant-y-moel - Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 12 Tachwedd, am 10.50am yn Sgwâr Pricetown. Yn cynnwys rhestr anrhydedd, y Caniad Olaf, Gweithgaredd Coffa a gosod torchau.
  • Pencoed – Gorymdaith a Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 12 Tachwedd i ddechrau yng Nghlwb Cymdeithasol Pencoed am 9.30am gyda gorymdaith i Gapel Salem, lle cynhelir gwasanaeth gan y Rheithor Ian Hodges, cyn parhau i’r Senotaff yng nghanol y dref.
  • Pontycymer - Gwasanaeth Sul y Cofio yn Eglwys Dewi Sant, Pontycymer am 10.00am. I ddilyn, gosodir torchau pabi a chynhelir munud o dawelwch a gweddïau am 11.00am wrth y gofeb ryfel ar Stryd Fictoria, Pontycymer.
  • Porthcawl - Bydd aelodau'r gymuned yn cael cyfle i osod torchau ger y gofeb ryfel yn Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl, ddydd Sadwrn 11 Tachwedd am 11am. Bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol, gyda chymorth Cyngor Tref Porthcawl, yn cynnal gwasanaeth ddydd Sul 12 Tachwedd 2023 yn Eglwys yr Holl Saint, 10.30am, a bydd y baneri yn cael eu harddangos wrth orymdeithio at y Gofeb Ryfel am 11am ar gyfer y Caniad Olaf. Mae croeso i bawb.
  • Y Pîl- Gwasanaeth Coffa, yn cynnwys gosod torchau pabi, ddydd Sul 12 Tachwedd yn y gofeb ryfel newydd ar dir Lleng Brydeinig Frenhinol y Pîl am 10.40am. Bydd lluniaeth ar gael yn y clwb ar ôl y gwasanaeth. Croeso i bawb. Gofynnir i chi fod yn y Lleng erbyn 10.30am.

Ceir manylion llawn y digwyddiadau Coffa hyn ar wefan y cyngor.

Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan o'r digwyddiadau Coffa cenedlaethol ac yn rhoi cyfle i breswylwyr lleol fyfyrio ar gyfraniad milwyr Prydeinig a’r Gymanwlad a dinasyddion a atebodd y galw yn ystod y ddau Ryfel Byd, a gwrthdaro diweddarach.

Mae'r gorymdeithiau a'r gwasanaethau Coffa, sydd wedi'u trefnu gan ein cynghorau tref a chymuned, yn gyfle i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ym mhob gwrthdaro ers hynny.

Anrhydedd yw ymuno â’r gymuned i gofio am bob un sy’n gwasanaethu heddiw ac sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, sydd wedi ymladd dros ein gwlad a rhoi’r aberth fwyaf er mwyn amddiffyn y rhyddid yr ydym ni’n ei fwynhau.

Rydym yn annog unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd am ymuno â’r gweithgaredd coffa hwn i fynychu gwasanaeth neu ddigwyddiad Coffa.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Cysylltwch â'r cyngor tref a chymuned perthnasol os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y digwyddiadau Coffa.

Chwilio A i Y