Diwrnod y Cofio 2023
Mae Sul y Cofio yn gyfle i gofio am wasanaeth ac aberth pawb sydd wedi amddiffyn ein rhyddid ac wedi diogelu ein ffordd o fyw.
Mae cynnal digwyddiadau cofio yn un ffordd o helpu i sicrhau nad yw aberthau'r unigolion hynny a wasanaethodd yn mynd yn angof.
Gweler isod restr o rai o'r digwyddiadau Cofio sy'n cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol.
Gorymdaith a Gwasanaeth Diwrnod y Cofio
Dydd Sul 12 Tachwedd, 10.25am
Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd gorymdaith, wedi’i threfnu gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a’i harwain gan Fand Pibau Dinas Abertawe, yn dod ynghyd ar Stryd Adare yn y gyffordd â Stryd Wyndham am 10.25am ar Sul y Cofio.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.40am ac yn mynd heibio'r Gofeb Ryfel, Dunraven Place ar gyfer gwasanaeth gan y Parchedig Rachel Wheeler. Bydd Côr Meibion Pen-y-bont ar Ogwr a Band Pres Lewis-Merthyr yn darparu cymorth cerddorol.
Bydd Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol yn bresennol a bydd yn arwain y saliwt ar ôl y gwasanaeth.
Bydd cynrychiolwyr y Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr, Sefydliadau a Chymdeithasau Dinesig, Cynghorau Tref a Chymuned, ac aelodau'r cyhoedd yn mynychu i gydnabod y coffâd.
Gwasanaeth Coffa a Gosod Torch
Ddydd Sadwrn 11 Tachwedd, 10.45am
Sgwâr Abercynffig
Gwasanaeth Coffa
Dydd Sul 12 Tachwedd, 2pm
Neuadd Goffa Bryncethin, Bryncethin
Gwasanaeth Coffa
Dydd Sul 12 Tachwedd, 9.45am
Eglwys Sant Cynfelyn, Cymmer Road, Caerau
Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddilyn gan a gwasanaeth ger y gofeb ryfel yn y pentref ar Sgwâr Caerau am 10.55am.
Gwasanaeth Coffa
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, 10.45am
Canolfan Gymunedol Corneli, Corneli
Gwasanaeth Coffa
Ddydd Sul 12 Tachwedd, 10.00am
Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd, Cefn Cribwr
Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddilyn gan gwasanaeth ger cofeb ryfel y pentref ar Dir Comin Mynydd Bach am 10.55am.
Gweithgaredd Coffa
Ddydd Sul 12 Tachwedd, 10.50am - 11.10am
Neuadd Goffa Williams, Prif Ffordd, Llangrallo
Gwasanaeth Coffa
Ddydd Sul 12 Tachwedd, 10.00am
Eglwys Sant Theodore, Stryd Fawr, Mynydd Cynffig
Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddilyn gan gwasanaeth ger y senotaff yn Lle Moriah (croes uchaf) am 10.45am.
Cynhelir Gwasanaeth Coffa
Dydd Gwener 10 Tachwedd, 10.30am
Neuadd Bentref Llangynwyd, Llangynwyd
Cynhelir Gwasanaeth Coffa ac yna gosodir torchau ar y gofeb ryfel. Bydd lluniaeth ar gael yn y neuadd wedyn.
Apêl Pabi y Lleng Brydeinig Frenhinol / Gŵyl Goffa
Ddydd Gwener 10 Tachwedd, 7pm - 9.30pm
Nghlwb Rygbi 7777 Maesteg, Stryd y Castell, Maesteg
Gwasanaeth Coffa
Dydd Sul 12 Tachwedd, 10:50am
Sgwâr Pricetown, Nantymoel
Yn cynnwys rhestr anrhydedd, y Caniad Olaf, Gweithgaredd Coffa a gosod torchau.
Gorymdaith a Gwasanaeth Coffa
Dydd Sul 12 Tachwedd
I ddechrau yng Nghlwb Cymdeithasol Pencoed am 9.30am gyda gorymdaith i Gapel Salem, lle cynhelir gwasanaeth gan y Rheithor Ian Hodges, cyn parhau i’r Senotaff yng nghanol y dref.
Gwasanaeth Sul y Cofio
Dydd Sul 12 Tachwedd, 10.00am
Eglwys Dewi Sant, Pontycymer
I ddilyn, gosodir torchau pabi a chynhelir munud o dawelwch a gweddïau am 11.00am wrth y gofeb ryfel ar Stryd Fictoria, Pontycymer.
Gwasanaeth Cofio'r Cadoediad
Dydd Sul 12 Tachwedd, 10.30am
Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl
Bydd aelodau'r gymuned yn cael cyfle i osod torchau ger y gofeb ryfel yn Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl, ddydd Sadwrn 11 Tachwedd am 11am.
Bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol, gyda chymorth Cyngor Tref Porthcawl, yn cynnal gwasanaeth ddydd Sul 12 Tachwedd 2023 yn Eglwys yr Holl Saint, 10.30am, a bydd y baneri yn cael eu harddangos wrth orymdeithio at y Gofeb Ryfel am 11am ar gyfer y Caniad Olaf. Mae croeso i bawb.
Gwasanaeth Coffa, yn cynnwys gosod torchau pabi
Ddydd Sul 12 Tachwedd, 10.40am
Lleng Brydeinig Frenhinol y Pîl, y Pîl
Bydd lluniaeth ar gael yn y clwb ar ôl y gwasanaeth. Croeso i bawb. Gofynnir i chi fod yn y Lleng erbyn 10.30am.
Pinnau Pabi
Os hoffech chi brynu pin pabi, maent ar gael yn y Poppy Shop ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr. Fel arall, gallwch brynu pabi ar-lein.