Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhaglen brysur o weithgareddau ar gyfer plantos Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr haf hwn.

Gall plant a phobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr edrych ymlaen at raglen brysur o weithgareddau a digwyddiadau yr haf hwn.

Ar y cyd ag Awen, Halo Leisure, yr Urdd, Menter Bro Ogwr a chynghorau tref a chymuned, mae’r rhaglen ‘Dim Ysgol’ yn llawn o weithgareddau hwyliog i blant a phobl ifanc, yn cynnwys chwaraeon, gemau, gweithgareddau celfyddydol a chreadigol a digwyddiadau.

Bydd y rhaglenni gwyliau ‘Actif am Oes’ hynod boblogaidd, a gaiff eu cefnogi gan gynghorau tref a chymuned, yn dychwelyd i leoliadau cymunedol ym Mracla, Pen-y-bont, Bettws, Caerau, Cwm Garw, Maesteg, Cwm Ogwr, Pencoed a Phorthcawl ddydd Llun 24 Gorffennaf a thrwy gydol gwyliau’r haf.

Bydd y sesiynau gweithgareddau am ddim yn ystod y gwyliau yn cael eu cynnal ar gyfer plant rhwng 8 ac 11 oed, ac yn ddibynnol ar le. Mae rhagor o wybodaeth i rieni a gofalwyr yma.

Caiff plant hefyd eu hannog i ymgymryd â ‘Her Ddarllen yr Haf’ eleni, sef ‘Ar eich marciau, Darllenwch’, a gynhelir gan The Reading Agency mewn partneriaeth ag Awen a Halo Leisure.

Nod yr her yw ysbrydoli plant i ddarllen o leiaf chwe llyfr o’r llyfrgell yn ystod gwyliau’r haf, a bydd plant sy’n cofrestru yn unrhyw un o lyfrgelloedd y fwrdeistref sirol hefyd yn cael gostyngiad o 25% ar brisiau gweithgareddau Halo, gan gynnwys sesiynau nofio i'r teulu, maes chwarae meddal dan do JumpInGym, castell fownsio/sesiynau chwarae meddal, chwaraeon raced i’r teulu ac yn y caffi hefyd.

Bydd llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cynnig rhaglen o ddigwyddiadau, yn cynnwys gweithdai AfroSheep Animations, YouTube, Dance Crazy a Zack Franks Movement and Dance. Ceir yr holl ddyddiadau a lleoliadau ar wefan Llyfrgelloedd Awen (www.awen-libraries.com) ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn y cyfamser, ochr yn ochr â’i hamserlen lawn o sioeau ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gosod y llwyfan ar gyfer haf o berfformiadau theatr awyr agored ym Mharc Gwledig Bryngarw, gyda sioeau clasurol fel Wizard of Oz a Bad Dad ar gynnig yr haf hwn. Bydd perfformiad lle cewch dalu’r hyn y gallwch ei fforddio ar gael hefyd. Ceir rhagor o fanylion ar wefannau Swyddfa Docynnau Awen a Pharc Bryngarw: https://awenboxoffice.com/bryngarw-country-park/whats-on a https://www.bryngarwcountrypark.co.uk/outdoor-theatre-faqs/.

Gall siaradwyr Cymraeg ifanc edrych ymlaen at gynlluniau gwyliau iaith Gymraeg gyda Menter Bro Ogwr yn cynnal cynlluniau chwarae am ddim ym Maesteg, Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr. A bydd yr Urdd yn cynnal gwersylloedd chwaraeon cyfrwng Cymraeg lle all plant ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd.

Bydd Halo Leisure hefyd yn codi hwyl gyda'u menter nofio am ddim sy’n cynnwys cyrsiau nofio carlam i ddechreuwyr a sesiynau gwella strociau ar gyfer plant 16 oed a hŷn.

Gall pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed elwa ar sesiynau’r rhaglen Cymorth i Ieuenctid a Strydoedd Saffach a fydd yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 24 Gorffennaf, ar ddyddiau Llun, Mawrth a Mercher, drwy gydol gwyliau'r haf ym Mhen-y-bont, Maesteg a Phencoed yn y drefn honno.

Ceir manylion llawn y rhaglen ‘Dim Ysgol’ ar wefan y cyngor.

Mae ein cynllun Dim Ysgol yn gyfle gwych sy’n cynnig haf hwyliog yn llawn gweithgareddau i’w helpu i’w cadw'n actif, ac i ganiatáu eu dychymyg lifo. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bob un o’n partneriaid am gyfrannu at y rhaglen gyffrous hon o weithgareddau rhad ac am ddim, a byddwn yn annog teuluoedd lleol i gymryd mantais ar y fenter ac ymuno â'r sbri!

Y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Chwilio A i Y