Newid gwedd maes parcio Neuadd Bowls Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o’r Prosiect Strydoedd Mwy Diogel
Poster information
Posted on: Dydd Iau 08 Rhagfyr 2022
Yn ddiweddar, cafodd maes parcio Neuadd Bowls, Pen-y-bont ar Ogwr weddnewidiad gan artistiaid Another day Another spray, THEW Creative ac Abys.
Cafodd pobl ifanc lleol hefyd y cyfle i gynhyrchu ychydig o gelf stryd ar bileri’r maes parcio, fel rhan o weithdy a drefnwyd.
Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl diolch i bartneriaeth Strydoedd Mwy Diogel, a sicrhaodd arian ar gyfer prosiectau celf stryd yn yr ardal, fel rhan o fenter ehangach gwerth bron i £750,000.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu de Cymru. Mae prosiectau eraill yn cynnwys sioeau teithiol atal trosedd, dosbarthiadau hunan-amddiffyn, marsialiaid tacsis, hyfforddiant gwylwyr a mwy.
Nod celf stryd yw gwella golwg a theimlad y maes parcio, wrth greu amgylchedd mwy diogel a mwy deniadol i drigolion. Mae’r celf newydd a ddyluniwyd yn bwrpasol wedi disodli hen graffiti ac mae’n cynnwys rhai dyluniadau sy’n gysylltiedig â Phen-y-bont ar Ogwr.
Rydym ar ben ein digon bod y cyllid newydd Strydoedd Mwy Diogel hwn eisoes yn cael ei wario'n effeithiol a'i fod o fudd i'n cymunedau lleol.
Mae celf stryd wedi bywiogi maes parcio Bowls Hall a’r gobaith yw y bydd hyn yn helpu preswylwyr i deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio’r cyfleuster.
Mae hefyd yn braf bod llawer o bobl ifanc wedi cael y cyfle i gymryd rhan a hoffwn roi clod i’r artistiaid stryd, a phawb sy’n ymwneud â’r prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio: